neu addasu yn ôl y cyd-destun? h.y. gan amlaf bydd hi'n amlwg ai at swyddog/pwyllgor/panel y caiff rhywbeth ei gyfeirio.


Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 26 Gorffennaf 2011 16:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: escalating concerns

 

Fyddai modd defnyddio "lefel uwch" rywsut?

"cael sylw i'r pryder ar lefel uwch" ?

 

On 26 Gorff 2011, at 16:49, Carolyn wrote:



Ia, dyna'r ofn oedd gen i - mi allai fod yn bwyllgor/panel disgyblu ... unrhyw beth.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire Richards
Anfonwyd/Sent: 26 Gorffennaf 2011 16:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: escalating concerns

 

Dwi’n meddwl yr ychwanega i’r gair ‘corff’ at yr ymadrodd – ‘cyfeirio pryder at swyddog neu gorff uwch’.  Rhag ofn y bydd eisiau mynd y tu hwnt i gyfundrefn fewnol y sefydliad, fel mae’r siart lif yn awgrymu.

 

Ymddengys fod y sefyllfa honno’n ddigon posibl yn y ddogfen dwi’n ei chyfieithu.

 

Diolch.

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 26 July 2011 16:35
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: escalating concerns

 

Ges i'r un peth mewn rhyw ddogfen wythnos diwetha, Claire - mae'n amlwg yn dechrau ennill ei blwy yn Saesneg - 'cyfeirio 'cwyn/pryder' at swyddog uwch' ddefnyddiais i ar y pryd gan na allwn feddwl am ddim byd gwell

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire Richards
Anfonwyd/Sent: 26 Gorffennaf 2011 15:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: escalating concerns

 

Mae yna lawer o sôn am “escalating concerns” a “raising and escalating concerns” mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys amddiffyn oedolion agored i niwed.

 

Mewn un ddogfen i nyrsys dwi wedi cael hyd i siart lif sy’n disgrifio’r broses (isod).  “Codi pryderon” yw “raising concerns”, ond beth yw “escalating concerns”, sef mynd â nhw at rywun uwch yn yr hierarchaeth?

 

Mewn trafodaeth arall yn yr archifau cynigiwyd “uwchraddio”.  A fyddai hynny’n gwneud y tro?

 

Claire

 

“I have a concern about the safety or wellbeing of people in my care or in the environment in which I work

 

If there is an immediate risk of harm, report your concerns without delay to the appropriate person or authority

Stage 1:

Raise your concern internally with your line manager

If unable to do this for any reason

Stage 2:

Raise your concern internally with a designated person

Concern not addressed adequately and/or immediate risk to others

Stage 3:

Escalate your concern internally to a higher level

Concern not addressed adequately and/or immediate risk to others

Stage 4:

Escalate your concern to a healthcare regulatory organization”

 

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA