Print

Print



Tybed a oes angen term fel y cyfryw yma? A fyddai hi'n ddigon dweud rhywbeth fel "arwain at gyfnodau byr pan fydd y dŵr yn mynd yn llawer mwy asidig"
Mae'n dibynnu ar natur y testun a'r gynulleidfa darged wrth gwrs, ond dw i ddim yn siwr a fyddai'r darllenydd nad yw'n gyfarwydd â'r math hwn o derminoleg yn dehongli'r sôn am "bigau asid" mewn dŵr!
 
Fyddai rhywbeth fel 'cyfnodau brig' yn weddol agos ati am y math hwn o 'spike'?

 

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 16:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: acid spikes

Fe wnes i ddefnyddio "pigau teledu" am "TV spikes" yn ddiweddar - sôn am y cynnydd sydyn yn y defnydd o drydan pan fydd pawb yn gwneud paned ar ddiwedd gêm bêl-droed bwysig ar y teledu.

Siân

On 25 Gorff 2011, at 15:57, Geraint Lovgreen wrote:


Pigau asid?
 
Meddwl am y pigau ar graff fyddai'n darlunio'r lefelau asid rydw i.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Gareth Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, July 25, 2011 7:58 AM
Subject: Fw: acid spikes

Tybed oes gan unrhyw un awgrymiadau ar gyfer yr isod?
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Gareth Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Sent: Monday, July 25, 2011 9:03 AM
Subject: acid spikes

Daw'r dyfyniad o ddarn sy'n trafod effeithiau glaw asid ar briddoedd ac afonydd Eryri:
 
Areas such as the Migneint have naturally acidic soils, but the added acidity from high rainfall and acid deposition means the buffering capacity of the moorland is unable to neutralise the high acid content resulting in acid spikes during high rainfall spates where the PH level can drop to below 4. 
 
Unrhyw awgrymiadau, os gwelwch yn dda?