Diolch, Judith. Beiaf Bruce am yr wybodaeth anghywir o ran tartennau. 'Rwy'n hoffi dy gynnig di. Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Judith Kaufmann Sent: 25 July 2011 13:08 To: [log in to unmask] Subject: ATB: ATB: hash browns a tarte Tatin Mae tarten afal Ffrengig yn agored efo tafelloedd tenau o afalau wedi eu gosod mewn cylchoedd del ac yn frown neis ar yr ymylon ar ôl pobi. Mewn tarte Tatin, rhoddir tameidiau mawr o afal mewn rhyw fath o garamel a’r toes ar eu pennau; mae’r cwbl yn cael ei droi ar ôl pobi. Fyddwn i ddim yn galw honno yn darten afal Ffrengig. Y nodwedd arbennig ydi’r troi ar ôl pobi; ges i darten tomato dull Tatin yn ddiweddar, ac mae’n bosib gwneud hynny efo pob mathau o bethau eraill. Beth am darten falau dull Tatin? Judith -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda Lloyd Wallace Anfonwyd/Sent: 25 July 2011 12:37 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin Onid ydy hi'n bwysig cadw'r enw Tatin gan mai Stephanie Tatin greodd y rysait? On Mon, 25 Jul 2011 12:13:34 +0100 , Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: >... neu "tarten afal Ffrengig"? >Ann > > >-----Original Message----- >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Lloyd >Wallace >Sent: 25 July 2011 12:09 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin > >Dw i'n cytuno'n llwyr Matthew. Ond 'stwnsh corn-biff' a gynigir yn GPC am >corned beef hash, felly 'stwnsh ... ' ddylai hash browns fod ma'n debyg, ond >ma 'stwnsh tatws' yn awgrymu tatws wedi'u stwnshio a dim mwy. Beth am >'stwnsh ffrei'?? > >Ac a fydde fo'n dderbyniol i mi roi tarten Tatin felly? > >Mi fydd y Saesneg ar gael ochr yn ochr yn yr achos yma. > >Diolch am eich cymorth. > >Mi arhosa i tan 1.00 ar gyfer eich barn! > >Gwenda > > >On Mon, 25 Jul 2011 11:32:00 +0100 , Matthew Clubb <[log in to unmask]> wrote: >>Mae i'w weld yn drueni peidio â chynnig rhywbeth Cymraeg - 'teishenni >>tatws', 'patis tatws', hyd yn oed 'hash(au) tato'. >> >>O safbwynt ymarferol, rwy'n bwrw taw bwydlenni dwyieithog fydd y rhain - >>hynny yw, os bydd y darllenydd Cymraeg yn drysu'n llwyr o weld term >>anghyfarwydd, fe fydd y llygad yn mynd i'r Saesneg ... "A, dyna beth yw >>'hash brown' yn Gymraeg felly" >> >>O safbwynt 'gwleidyddiaeth' iaith, hynny yw statws a pharhad yr iaith, onid >>yw hi'n bwysig mynd ati - lle bynnag y mae hi'n bosib - i fathu geiriau >>Cymraeg newydd neu gymathu geiriau o ieithoedd eraill i orgraff a morffoleg >>y Gymraeg? >> >> >>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- >>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda Lloyd >>Wallace >>Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 10:17 >>At/To: [log in to unmask] >>Pwnc/Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >> >>Yn cytuno efo ti Sian. Felly, cadw at y Saesneg wna i ar gyfer y ddau derm, >>oni bai fod yna awgrymiadau gwell yn cyrraedd cyn 12.00 heddiw! >> >>Diolch yn fawr i bawb am eu cynigion. >> >>Gwenda >> >>On Mon, 25 Jul 2011 09:38:39 +0100 , Sian Roberts >><[log in to unmask]> wrote: >>>Ydi 'teisen gri datws' yn awgrymu bod 'na gyrens ynddi hi?! >>>Hefyd, yn ôl y rysetiau rwy wedi'u gweld ar y we, cael eu ffrio mae >>>hash browns. >>>A beth am bobol y de? >>> >>>Yn ôl a wela i hefyd, mae "patis tatws" yn tueddu i gael eu gwneud o >>>sbarion tatws wedi'u stwnsho a chynhwysion eraill fel winwns, wyau, >>>caws etc >>> >>>Wedi dweud hynny, does gen i ddim awgrym gwell! >>> >>>Siân >>> >>> >>>On 25 Gorff 2011, at 09:03, Meinir Pierce Jones wrote: >>> >>>> Mae 'teisen gri datws' yn ddisgrifiad iawn o rywbeth fel hyn ac yn >>>> swnio'n Gymreig. >>>> >>>> >>>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" >>>> <[log in to unmask]> >>>> To: <[log in to unmask]> >>>> Sent: Saturday, July 23, 2011 12:46 PM >>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >>>> >>>> >>>>> Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond >>>>> mae'n ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r >>>>> enw llawn wedi'r cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth >>>>> a ro"sti, ond bod un rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg >>>>> iawn mewn gwledydd eraill, ond yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw. >>>>> dan Wikipedia "potato >>>>> pancakes": See >>>>> Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond >>>>> oni fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael >>>>> "patis tatis" >>>>> neu "patws tatws"!). >>>>> >>>>> Yn mwydro eto, >>>>> >>>>> Ann >>>>> >>>>> >>>>> -----Original Message----- >>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of >>>>> Gwenda Lloyd Wallace >>>>> Sent: 23 July 2011 08:09 >>>>> To: [log in to unmask] >>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >>>>> >>>>> Diolch Anna - dw i'n cytuno. >>>>> >>>>> Gwenda >>>>> >>>>> On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd >>>>> <[log in to unmask]> >>>>> wrote: >>>>>> Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i ni i >>>>>> gyd, lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod na le >>>>>> dros adael hash browns hefyd. >>>>>> >>>>>> Anna >>>>>> >>>>>> 2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]> >>>>>> >>>>>>> Ia, bwydlen! >>>>>>> >>>>>>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn >>>>>>> adael >>>>> tarte >>>>>>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten Tatin. >>>>>>> >>>>>>> Diolch yn fawr. >>>>>>> >>>>>>> Gwenda >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> -- >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace >>>>>>> >>>>>>> Cyfieithydd/Translator >>>>>>> >>>>>>> Troed-y-rhiw >>>>>>> >>>>>>> Cefn-llwyd >>>>>>> >>>>>>> Aberystwyth >>>>>>> >>>>>>> Ceredigion >>>>>>> >>>>>>> Cymru/Wales >>>>>>> >>>>>>> SY23 3HX >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817 >>>>>>> >>>>> >>>>> >>>>> >>>>> -- >>>>> >>>>> >>>>> Gwenda Lloyd Wallace >>>>> Cyfieithydd/Translator >>>>> Troed-y-rhiw >>>>> Cefn-llwyd >>>>> Aberystwyth >>>>> Ceredigion >>>>> Cymru/Wales >>>>> SY23 3HX >>>>> >>>>> Ffon/Tel: 01970 880817 >> >> >> >>-- >> >> >>Gwenda Lloyd Wallace >>Cyfieithydd/Translator >>Troed-y-rhiw >>Cefn-llwyd >>Aberystwyth >>Ceredigion >>Cymru/Wales >>SY23 3HX >> >>Ffon/Tel: 01970 880817 > > > >-- > > >Gwenda Lloyd Wallace >Cyfieithydd/Translator >Troed-y-rhiw >Cefn-llwyd >Aberystwyth >Ceredigion >Cymru/Wales >SY23 3HX > >Ffon/Tel: 01970 880817 -- Gwenda Lloyd Wallace Cyfieithydd/Translator Troed-y-rhiw Cefn-llwyd Aberystwyth Ceredigion Cymru/Wales SY23 3HX Ffon/Tel: 01970 880817