'Bu'n byw ...' sy'n taro'n iawn i mi.

ym/yn: gwastraffodd Iorwerth Peate hanner y gofod yn un o'i adolygiadau yn y Faner rywdro yn lladd ar awdur am ddefnyddio 'ym'. Ei ddadl e oedd mai 'un fil naw cant dau ddeg' y byddai pobl yn ei ddweud. Fy nadl i oedd mai 'nineteen twenty' roedd pobl yn ei ddweud. Unig rinwedd defnyddio 'ym' yw ei fod yn cyfeirio meddwl y darllenydd at 'ym mil naw cant dau ddeg' yn hytrach nag 'yn nineteen twenty'.

Ond pwynt pwysicach yw'r llinell anghymreig 'Actores Broadway a Ffilmiau Mud'  Beth? Bu hi'n actio Broadway ? Does bosib iddi fod yn ddigon llydan i wneud hynny. A go brin iddi actio ffilmiau mud chwaith ...! 

Gwell fyddai dweud 'Bu'n actio ar Broadway ac mewn Ffilmiau Mud'.

Berwyn

2011/7/22 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

Onid yw’n dibynnu ar yr hyn ‘rydych chi’n ei *ddweud* e.e.:

ym mil naw dim un

yn un naw dim un

amrywiaeth arall

 

A oes *un* dull cywir o ddweud enw blwyddyn, ynteu sawl un?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 22 July 2011 14:03

Subject: Re: bu'n byw yma yn 1901 / byw yma yn 1901

 

Ym 1901?

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of dafydd roberts
Sent: 22 July 2011 13:53
To: [log in to unmask]
Subject: bu'n byw yma yn 1901 / byw yma yn 1901

 


Un ymateb sy wedi bod hyd yn hyn. Rhaid i'r pwyllgor wneud penderfyniad yfory.

P'un sy'n well?


Eleanor Daniels
1886-1994

Buddugwraig Eisteddfodol – y Bardd ‘Elwy’
Actores Broadway a Ffilmiau Mud

Byw / Bu’n byw yma yn 1901

Tafarn y ‘Fountain’ gynt


Diolch am bob awgrym.