Print

Print


'Bu'n byw ...' sy'n taro'n iawn i mi.

ym/yn: gwastraffodd Iorwerth Peate hanner y gofod yn un o'i adolygiadau yn y
Faner rywdro yn lladd ar awdur am ddefnyddio 'ym'. Ei ddadl e oedd mai 'un
fil naw cant dau ddeg' y byddai pobl yn ei ddweud. Fy nadl i oedd mai
'nineteen twenty' roedd pobl yn ei ddweud. Unig rinwedd defnyddio 'ym' yw ei
fod yn cyfeirio meddwl y darllenydd at 'ym mil naw cant dau ddeg' yn hytrach
nag 'yn nineteen twenty'.

Ond pwynt pwysicach yw'r llinell anghymreig 'Actores Broadway a Ffilmiau
Mud'  Beth? Bu hi'n actio Broadway ? Does bosib iddi fod yn ddigon llydan i
wneud hynny. A go brin iddi actio ffilmiau mud chwaith ...!

Gwell fyddai dweud 'Bu'n actio ar Broadway ac mewn Ffilmiau Mud'.

Berwyn

2011/7/22 Ann Corkett <[log in to unmask]>

> **
>
> ** **
>
> ** **
>
> Onid yw’n dibynnu ar yr hyn ‘rydych chi’n ei **ddweud** e.e.:****
>
> ym mil naw dim un****
>
> yn un naw dim un****
>
> amrywiaeth arall****
>
> ** **
>
> A oes **un** dull cywir o ddweud enw blwyddyn, ynteu sawl un?****
>
> ** **
>
> Ann****
>  ------------------------------
>
> *From:* **Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary** [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Gorwel
> Roberts
> *Sent:* 22 July 2011 14:03
>
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: bu'n byw yma yn 1901 / byw yma yn 1901****
>
>  ** **
>
> Ym 1901?****
>
> ** **
>  ------------------------------
>
> *From:* **Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary** [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *dafydd
> roberts
> *Sent:* 22 July 2011 13:53
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* bu'n byw yma yn 1901 / byw yma yn 1901****
>
> ** **
>
>
> Un ymateb sy wedi bod hyd yn hyn. Rhaid i'r pwyllgor wneud penderfyniad
> yfory.
>
> P'un sy'n well?
>
>
> Eleanor Daniels
> 1886-1994
>
> Buddugwraig Eisteddfodol – y Bardd ‘Elwy’
> Actores Broadway a Ffilmiau Mud
>
> Byw / Bu’n byw yma yn 1901
>
> Tafarn y ‘Fountain’ gynt
>
>
> Diolch am bob awgrym.****
>