Yn aml iawn fe fydd ansawdd testun Saesneg hefyd yn gwella’n sylweddol, o adlewyrchu’r cyfryw batrwm cystrawenol (isod) a arferir yn yr iaith Gymraeg, yn yr iaith fain yn ogystal. Mae hwn yn bwynt da iawn; gan fod yr arferiad hwn yn y Gymraeg yn arbed llawer iawn o’r amwysedd a geir mewn Saesneg aml-gymalog cyfoes. Sawl gwaith yn y Saesneg y’n gorfodir ni i ddarllen y darn nifer o weithiau, er mwyn ceisio dirnad i faint o’r amryw is-gymalau y bydd yr un arddodiad ar y dechrau yn perthyn? Weithiau bydd y Saesneg yn bodloni ar un arddodiad mewn prif gymal dechreuol i wasanaethu dau neu dri o wahanol wrthrychau yn nes ymlaen yn y testun, tra mewn gwirionedd y dylid fod wedi defnyddio dau neu dri o wahanol arddodiaid gwahanol ar gyfer pob un ohonynt yn eu tro: ‘ ... on tv, .. in the box, ... at the house’. H.y. yn gyson mewn testunau Saesneg wedi eu hysgrifennu’n flęr, dydyw’r un arddodiad a ddefnyddir ar y dechrau ond yn priodol berthyn mewn gwirionedd i’w un gwrthrych cyntaf ei hun. Dyna dwpdra cystrawenol y Saesneg ffasiynol yn y dydd sydd ohoni, sydd wrth gwrs yn achosi poendod cyson i ni gyfieithwyr. Pwynt da. Eurwyn. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lewis Sent: 16 July 2011 10:15 To: [log in to unmask] Subject: Re: own and manage Gwers a ddysgais yn gymharol ddiweddar sy'n profi'n gynyddol ddefnyddiol yw bod yr arddodiad yn arfer cael ei ailadrodd yn Gymraeg 'Blwyddyn newydd dda i chwi, ac i bawb sydd yn y ty^!' _____ Date: Fri, 15 Jul 2011 21:15:50 +0200 From: [log in to unmask] Subject: Re: own and manage To: [log in to unmask] Ia, hwnnw hefyd, dwi'n credu i mi ddefnyddio hwnnw ryw ben - os da y cofiaf byddwn yn eu hamrywio o bryd i'w gilydd i weld pa un fasa'n taro orau Anna 2011/7/15 Mary Jones <[log in to unmask]> Dydw i ddim yn credu bod angen ei dderbyn. Mae'n bosib dweud "Cyngor Dinas Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Dewi Sant ac yn ei rheoli''. Mary -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 15 July 2011 17:34 To: [log in to unmask] Subject: Re: own and manage 'Dw i ddim. Beth am "fi yw perchennog a rheolwr ..." Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 15 July 2011 17:15 To: [log in to unmask] Subject: own and manage Dim ymholiad am derm - pwynt gramadegol Ydi pobl yn derbyn "Rydym yn berchen ar ac yn rheoli ..." erbyn hyn? Rwy'n darllen proflenni a does arna i ddim eisiau bod yn rhy lym ond mae'n swnio'n chwithig i mi. Diolch Siân