Print

Print


"Pas bys" meddai'r plant - a "pasys bys" - gydag acen ddisgynedig (?)  
ar yr "y" yn "bys"

Siân
On 14 Gorff 2011, at 15:14, anna gruffydd wrote:

> Mae'r pasys sy gen i dan sylw yn symlach o lawer (diolch i'r drefn  
> - faswn i byth yn medru clandro sut i fynd i unman yng Ngwynedd!!)  
> - dim ond i blant ysgol nol ac ymlaen i'r ysgol ar fysus.
>
> Anna
>
> 2011/7/14 Claire Richards <[log in to unmask]>
> Gyda chardiau rhai cynghorau gallwch deithio am ddim ar drenau ar  
> rai llinellau ar rai adegau o’r flwyddyn, ac weithiau ac eithrio  
> rhai amserau.
>
>
>
> Er enghraifft, gyda cherdyn Cyngor Gwynedd, gallwch deithio am ddim  
> ar lein Dyffryn Conwy hyd fis Medi (ond nid ar y brif lein er mwyn  
> cyrraedd Cyffordd Llandudno – rhaid talu), a hyd fis Mawrth eleni  
> roeddech chi’n gallu teithio am ddim ar lein Arfordir y Cambrian  
> (ac eithrio rhai trenau yn ystod tymor yr ysgol).
>
>
>
> Mae’n siŵr mai dyna pam maen nhw’n eu galw’n gardiau  
> ‘teithio’ yn hytrach na defnyddio’r gair ‘bysiau’.
>
>
>
> Claire
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Ann Corkett
> Sent: 14 July 2011 14:45
>
>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: bus passes
>
>
>
> Newydd edrych pa beth sydd gen i.  Dim son am fysys, er mi wn nad  
> yw’n ddilys ar y tren, ac yn son am “rhatach” er nad yw’n  
> costio dim  (am a wn i: efallai bod rhai teithiau’n rhatach, yn  
> hytrach nag yn rhad ac am ddim?).  Dyma’r hyn sydd gen i:
>
> Cerdyn Teithio Rhatach
>
> Concessionary Travel Pass
>
>
>
> ‘Rwy’n gweld bod sawl cyngor a sefydliad yn defnyddio’r term,  
> felly efallai dyna yw’r term swyddogol, nid “bus pass” –  
> bydd yn haws ei luosogi (a ‘dych chi i gyd yn gwybod rhywbeth am  
> f’oed i rwan!).
>
>
>
> Ann
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of anna gruffydd
> Sent: 14 July 2011 14:01
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB/RE: bus passes
>
>
>
> diolch eich dwy, unigol amdani
>
> Anna
>
> 2011/7/14 Meleri H. Hughes <[log in to unmask]>
>
> Yr ungiol – bws, faswn i’n ei ddweud.
>
>
>
> Meleri
>
>
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On  
> Behalf Of anna gruffydd
> Sent: 14 July 2011 13:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: bus passes
>
>
>
> Be fasach chi'n ddeud? pasys bws ta pasys bysus? Diolch
>
> Anna
>
> -------------------------------------------------------------
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i  
> bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys  
> gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad  
> ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a  
> dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n  
> anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
> -------------------------------------------------------------
> This email and any attachments are confidential and intended for  
> the named recipient only. The content may contain privileged  
> information. If it has reached you by mistake, you should not copy,  
> distribute or show the content to anyone but should contact the  
> sender at once.
> Any content that is not pertinent to the official business of the  
> organisation is personal to the author.
> -------------------------------------------------------------
> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni  
> bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it  
> is absolutely necessary.
>
>
>
>
>
>