Cenedl cyfrif? -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock Sent: 14 July 2011 12:29 To: [log in to unmask] Subject: Numbernation Cais gan un o'r ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd yw hwn. Ysgol cyfrwng Saesneg yw hi, a'r plant yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ieithyddol a diwylliannol. Y neges yw bod maths yn perthyn i bawb; bydd adran yn llawlyfrau'r plant yn dweud "We are a numbernation"; a bydd y pennawd yn cael ei ddefnyddio i amlygu maths fel thema drwy'r ysgol i gyd. Ond mae'r ysgol yn gweithio hefyd i ledaenu'r Gymraeg ar draws yr ysgol, ac felly mae angen rhywbeth cyfatebol. 'Pobol y Rhif' medde fi, ond mae'n rhaid bod rhywbeth gwell...