Fo aeth a’r ‘deryn oddi ar Sionyn, a dod i fyny’r grisiau ag o, gan ddisgwyl y byddwn i’n cymryd drosodd a chwilio am focs (fel mae’n digwydd, ‘rwy’n cadw un at y pwrpas!).
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Subject: Re: Datganiad ar/am/o
Sent: 12 July 2011 11:35
Be? ddaru Bruce ddal y deryn yn llawiach a Sionyn? golwg newydd a thra chyfareddol ar aml ddoniau Bruce.
Anna2011/7/12 Ann Corkett <[log in to unmask]>
ynghylch neu yngly^ a^ byddai Bruce yn ei ddefnyddio.
Ond a fyddai “datganiad/adroddiad ariannol” yn gwneud y tro yn aml?
Erbyn hyn ‘rwy’n teipio efo aderyn marw (?) yn fy llaw, diolch i Bruce a Sionyn y gath, felly gwell imi chwilio am focs i’w gadw nes bod yn sicr y naill ffordd neu’r llall.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 12 July 2011 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: Datganiad ar/am/o
Bore da,
Cyd-destun - gwybodaeth ariannol e.e. statement of expenditure/statement of financial position.
Yr arddodiad sy'n dilyn 'datganiad' yn yr ymadroddion uchod sy'n fy mhoeni - mae 'ar/am/o' ac 'ynglŷn â' yn cael eu defnyddio'n aml mewn cyfrifon ar y we - be 'di barn y cylch?
Carolyn