Print

Print


Licio'r syniad, ond y broblem yw bod angen "pennawd" ar gyfer pob lefel o'r hierarchaeth - mae'n dri cham, un yn dilyn y llall. Dwi ddim yn ddigon o fardd i gyfuno'r ddau syniad!

Sioned


On 7 Jul 2011, at 18:47, anna gruffydd wrote:

Ia, rhywbeth felly'n well o lawer.

Anna

2011/7/7 HUW ROBERTS <[log in to unmask]>
Hefo’r pethau yma (odli yn Saesneg) mi fyddaf weithiau’n ceisio cynnig llinell o gynghanedd (neu linell sy’n eithaf agos ati).  Yn yr achos yma, rhywbeth fel “Awchu am y gwyrddni gwych” – cynnig cyntaf sy’n uffernol o wan ond o leiaf yn Gymraeg ac yn Gymreig!
 
Mi fydd bardd yn cael gwell hwyl arni wrth reswm.
 
Huw Roberts
Creigiau
Caerdydd.

--- On Thu, 7/7/11, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Subject: Re: lean, mean, greenDate: Thursday, 7 July, 2011, 18:05


Mae'n colli ei holl ergyd heb yr odl yn anffodus, ac yn swnio braidd yn fygythiol !!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="http:[log in to unmask]" rel="nofollow" target="_blank">Sioned Graham-Cameron
To: [log in to unmask]" href="http:[log in to unmask]" rel="nofollow" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 07, 2011 2:15 PM
Subject: Fwd: lean, mean, green

Wedi cael gwybod gan y cwsmer mai "Darbodus, Llym, Gwyrdd" sydd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol.

Sioned


Begin forwarded message:

From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]" rel="nofollow" target="_blank">[log in to unmask]>
Date: 6 July 2011 14:39:47 GMT+01:00
To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]" rel="nofollow" target="_blank">[log in to unmask]>
Subject: lean, mean, green

Oes unrhyw un wedi dod ar draws hwn o'r blaen?

Hierarchaeth yn y maes ôl troed carbon a lleihau defnydd ynni ac ati.

Diffiniadau o'r tri:

Lean - Undertaking projects which increase efficiency of the things we use and the things we do.

Mean - Next, streamlining what we do and reducing what we use and not being afraid of making tough decisions.

Green - Increasing the use of renewable energy and instilling environmental consideration into all we do.

Diolch am unrhyw syniadau!


Sioned