Print

Print


Diolch, Dafydd. 


Sent from my BlackBerry® wireless device

-----Original Message-----
From:         Dafydd Lewis <[log in to unmask]>
Sender:       Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date:         Sat, 2 Jul 2011 01:54:55 
To: <[log in to unmask]>
Reply-To:     Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary              <[log in to unmask]>
Subject: Re: woodland passerines

Siân,

Mae 'adar clwydo'r coetiroedd' yn ymddangos i mi yn ddisgrifiad da o'r adar rheiny sydd yn yr Urdd biolegol Passeriformes, ac mae'n debyg mai dyna sydd ei angen yma.

Mae'r gair 'golfan' ran amlaf wedi cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg am ryw fath o 'sparrow' - h.y. adar sydd yn y Teulu Passeridae; mae'r Teulu hwn yn un o'r teuluoedd sy'n cael ei gynnwys yn yr Urdd Passeriformes, felly tydio ddim yn cynrychioli'r grwp ehangach o adar.

Mi fyddai defnyddio 'golfan(od)' yn dueddol o greu dryswch (efallai mai dyna pam wnest ti ddim ei gynnig). Mae'r enw 'golfan y mynydd' (tree sparrow, Passer montanus) yn ymddangos yng nghyfrol gyntaf cyfres enwau creaduriaid a phlanhigion Cymdeithas Edward Llwyd, a dyna'r unig 'golfan' sydd yn y llyfr. Ond mae 'golfan y coed' wedi cael ei ddefnyddio am yr un aderyn, ac mae 'na 'golfan y graig' (rock sparrow, Petronia petronia). Yn Llyfr Adar Iolo Williams mae 'na 'golfan yr Eidal' (Italian Sparrow) hefyd. Ni ddefnyddir yr enwau gwyddonol yn y llyfr hwnnw, na chwaith, mae arna i ofn, yn nogfennau bioamrywiaeth rhai awdurdodau lleol, felly nid oes sicrwydd am ba adar maent yn son amdanynt.

Dafydd  


 

On Fri, 1 Jul 2011 12:37:37 +0100, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

>Yn ôl Wikipedia: A passerine is a bird of the order Passeriformes, which includes more than half of all bird species. Sometimes known as perching birds or, less accurately, as songbirds, the passerines form one of the most diverse terrestrial vertebrate orders: 
>
>A wiseGEEK: Definition of Passerine: perching birds mostly small and living near the ground with feet having 4 toes arranged to allow for gripping the perch; most are songbirds; hatchlings are helpless
>
>Mae GyrA yn dweud golfanaidd (ans) neu golfan (enw).
>
>Oes enw penodol yn cael ei ddefnyddio am "woodland passerines"? adar clwydo'r coetiroedd? adar sy'n clwydo mewn coetiroedd?
>
>Diolch
>
>Siân
>