Dwi’n meddwl yr ychwanega i’r gair ‘corff’ at yr ymadrodd – ‘cyfeirio pryder at swyddog neu gorff uwch’. Rhag ofn y bydd eisiau mynd y tu hwnt i gyfundrefn fewnol y sefydliad, fel mae’r siart lif yn awgrymu.
Ymddengys fod y sefyllfa honno’n ddigon posibl yn y ddogfen dwi’n ei chyfieithu.
Diolch.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 26 July 2011 16:35
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: escalating concerns
Ges i'r un peth mewn rhyw ddogfen wythnos diwetha, Claire - mae'n amlwg yn dechrau ennill ei blwy yn Saesneg - 'cyfeirio 'cwyn/pryder' at swyddog uwch' ddefnyddiais i ar y pryd gan na allwn feddwl am ddim byd gwell
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire Richards
Anfonwyd/Sent: 26 Gorffennaf 2011 15:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: escalating concerns
Mae yna lawer o sôn am “escalating concerns” a “raising and escalating concerns” mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys amddiffyn oedolion agored i niwed.
Mewn un ddogfen i nyrsys dwi wedi cael hyd i siart lif sy’n disgrifio’r broses (isod). “Codi pryderon” yw “raising concerns”, ond beth yw “escalating concerns”, sef mynd â nhw at rywun uwch yn yr hierarchaeth?
Mewn trafodaeth arall yn yr archifau cynigiwyd “uwchraddio”. A fyddai hynny’n gwneud y tro?
Claire
“I have a concern about the safety or wellbeing of people in my care or in the environment in which I work
If there is an immediate risk of harm, report your concerns without delay to the appropriate person or authority
↓
Stage 1:
Raise your concern internally with your line manager
↓
If unable to do this for any reason
↓
Stage 2:
Raise your concern internally with a designated person
↓
Concern not addressed adequately and/or immediate risk to others
↓
Stage 3:
Escalate your concern internally to a higher level
↓
Concern not addressed adequately and/or immediate risk to others
↓
Stage 4:
Escalate your concern to a healthcare regulatory organization”
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA