Ciwt iawn Matthew! Yn swnio fel Machu Picchu! On Mon, 25 Jul 2011 12:30:44 +0100 , Matthew Clubb <[log in to unmask]> wrote: >Pitw-matos?! > >-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- >Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and >vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Tegid >Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 12:27 >At/To: [log in to unmask] >Pwnc/Subject: Tom-berries > >Mae'n ddrwg gen i am sôn am ragor o fwyd a hithau'n amser cinio, ond oes 'na >rywun wedi gweld neu flasu 'Tom-berries'? > >Dyma ragor o fanylion: > > >http://www.jsainsbury.com/cr/index.asp?PageID=72&subsection=&Year=2008&NewsI >D=1033 > > >"Aeron tomatos", ynteu allwch chi feddwl am gynnig bachog arall? > >Cofion gorau, > >Huw > > >-----Original Message----- >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn >Sent: 25 Gorffennaf 2011 12:16 >To: [log in to unmask] >Subject: ATB: ATB: hash browns a tarte Tatin > >Teisen stwnsh? > >Carolyn > >-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: >Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett >Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 12:14 >At/To: [log in to unmask] >Pwnc/Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin > >... neu "tarten afal Ffrengig"? >Ann > > >-----Original Message----- >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Lloyd >Wallace >Sent: 25 July 2011 12:09 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin > >Dw i'n cytuno'n llwyr Matthew. Ond 'stwnsh corn-biff' a gynigir yn GPC am >corned beef hash, felly 'stwnsh ... ' ddylai hash browns fod ma'n debyg, ond >ma 'stwnsh tatws' yn awgrymu tatws wedi'u stwnshio a dim mwy. Beth am >'stwnsh ffrei'?? > >Ac a fydde fo'n dderbyniol i mi roi tarten Tatin felly? > >Mi fydd y Saesneg ar gael ochr yn ochr yn yr achos yma. > >Diolch am eich cymorth. > >Mi arhosa i tan 1.00 ar gyfer eich barn! > >Gwenda > > >On Mon, 25 Jul 2011 11:32:00 +0100 , Matthew Clubb <[log in to unmask]> wrote: >>Mae i'w weld yn drueni peidio â chynnig rhywbeth Cymraeg - 'teishenni >>tatws', 'patis tatws', hyd yn oed 'hash(au) tato'. >> >>O safbwynt ymarferol, rwy'n bwrw taw bwydlenni dwyieithog fydd y rhain >>- hynny yw, os bydd y darllenydd Cymraeg yn drysu'n llwyr o weld term >>anghyfarwydd, fe fydd y llygad yn mynd i'r Saesneg ... "A, dyna beth yw >>'hash brown' yn Gymraeg felly" >> >>O safbwynt 'gwleidyddiaeth' iaith, hynny yw statws a pharhad yr iaith, >>onid yw hi'n bwysig mynd ati - lle bynnag y mae hi'n bosib - i fathu >>geiriau Cymraeg newydd neu gymathu geiriau o ieithoedd eraill i orgraff >>a morffoleg y Gymraeg? >> >> >>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: >>Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >>[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda Lloyd >>Wallace >>Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 10:17 >>At/To: [log in to unmask] >>Pwnc/Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >> >>Yn cytuno efo ti Sian. Felly, cadw at y Saesneg wna i ar gyfer y ddau >>derm, oni bai fod yna awgrymiadau gwell yn cyrraedd cyn 12.00 heddiw! >> >>Diolch yn fawr i bawb am eu cynigion. >> >>Gwenda >> >>On Mon, 25 Jul 2011 09:38:39 +0100 , Sian Roberts >><[log in to unmask]> wrote: >>>Ydi 'teisen gri datws' yn awgrymu bod 'na gyrens ynddi hi?! >>>Hefyd, yn ôl y rysetiau rwy wedi'u gweld ar y we, cael eu ffrio mae >>>hash browns. >>>A beth am bobol y de? >>> >>>Yn ôl a wela i hefyd, mae "patis tatws" yn tueddu i gael eu gwneud o >>>sbarion tatws wedi'u stwnsho a chynhwysion eraill fel winwns, wyau, >>>caws etc >>> >>>Wedi dweud hynny, does gen i ddim awgrym gwell! >>> >>>Siân >>> >>> >>>On 25 Gorff 2011, at 09:03, Meinir Pierce Jones wrote: >>> >>>> Mae 'teisen gri datws' yn ddisgrifiad iawn o rywbeth fel hyn ac yn >>>> swnio'n Gymreig. >>>> >>>> >>>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" >>>> <[log in to unmask]> >>>> To: <[log in to unmask]> >>>> Sent: Saturday, July 23, 2011 12:46 PM >>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >>>> >>>> >>>>> Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond >>>>> mae'n ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r >>>>> enw llawn wedi'r cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth >>>>> a ro"sti, ond bod un rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg >>>>> iawn mewn gwledydd eraill, ond yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw. >>>>> dan Wikipedia "potato >>>>> pancakes": See >>>>> Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond >>>>> oni fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael >>>>> "patis tatis" >>>>> neu "patws tatws"!). >>>>> >>>>> Yn mwydro eto, >>>>> >>>>> Ann >>>>> >>>>> >>>>> -----Original Message----- >>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf >>>>> Of Gwenda Lloyd Wallace >>>>> Sent: 23 July 2011 08:09 >>>>> To: [log in to unmask] >>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin >>>>> >>>>> Diolch Anna - dw i'n cytuno. >>>>> >>>>> Gwenda >>>>> >>>>> On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd >>>>> <[log in to unmask]> >>>>> wrote: >>>>>> Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i ni >>>>>> i gyd, lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod na >>>>>> le dros adael hash browns hefyd. >>>>>> >>>>>> Anna >>>>>> >>>>>> 2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]> >>>>>> >>>>>>> Ia, bwydlen! >>>>>>> >>>>>>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn >>>>>>> adael >>>>> tarte >>>>>>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten Tatin. >>>>>>> >>>>>>> Diolch yn fawr. >>>>>>> >>>>>>> Gwenda >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> -- >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace >>>>>>> >>>>>>> Cyfieithydd/Translator >>>>>>> >>>>>>> Troed-y-rhiw >>>>>>> >>>>>>> Cefn-llwyd >>>>>>> >>>>>>> Aberystwyth >>>>>>> >>>>>>> Ceredigion >>>>>>> >>>>>>> Cymru/Wales >>>>>>> >>>>>>> SY23 3HX >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> >>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817 >>>>>>> >>>>> >>>>> >>>>> -- Gwenda Lloyd Wallace Cyfieithydd/Translator Troed-y-rhiw Cefn-llwyd Aberystwyth Ceredigion Cymru/Wales SY23 3HX Ffon/Tel: 01970 880817