Print

Print


Gyda chardiau rhai cynghorau gallwch deithio am ddim ar drenau ar rai llinellau ar rai adegau o’r flwyddyn, ac weithiau ac eithrio rhai amserau.

 

Er enghraifft, gyda cherdyn Cyngor Gwynedd, gallwch deithio am ddim ar lein Dyffryn Conwy hyd fis Medi (ond nid ar y brif lein er mwyn cyrraedd Cyffordd Llandudno – rhaid talu), a hyd fis Mawrth eleni roeddech chi’n gallu teithio am ddim ar lein Arfordir y Cambrian (ac eithrio rhai trenau yn ystod tymor yr ysgol).

 

Mae’n siŵr mai dyna pam maen nhw’n eu galw’n gardiau ‘teithio’ yn hytrach na defnyddio’r gair ‘bysiau’.

 

Claire 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 14 July 2011 14:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: bus passes

 

Newydd edrych pa beth sydd gen i.  Dim son am fysys, er mi wn nad yw’n ddilys ar y tren, ac yn son am “rhatach” er nad yw’n costio dim  (am a wn i: efallai bod rhai teithiau’n rhatach, yn hytrach nag yn rhad ac am ddim?).  Dyma’r hyn sydd gen i:

Cerdyn Teithio Rhatach

Concessionary Travel Pass

 

‘Rwy’n gweld bod sawl cyngor a sefydliad yn defnyddio’r term, felly efallai dyna yw’r term swyddogol, nid “bus pass” – bydd yn haws ei luosogi (a ‘dych chi i gyd yn gwybod rhywbeth am f’oed i rwan!).

 

Ann

________________________________

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 14 July 2011 14:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: bus passes

 

diolch eich dwy, unigol amdani

Anna

2011/7/14 Meleri H. Hughes <[log in to unmask]>

Yr ungiol – bws, faswn i’n ei ddweud.

 

Meleri 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 14 July 2011 13:34
To: [log in to unmask]
Subject: bus passes

 

Be fasach chi'n ddeud? pasys bws ta pasys bysus? Diolch

Anna

-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.