Print

Print


Pam dyn nhw'n yn lecio 'byddwch fel y mynnwch' tybed? Llai ffurfiol ella -
'bydd be t'isio' (mae'n fyrrach ac o wbod bod tatws (maddeuwch y diffyg to
bach, nid llysia sy dan sylw yma) yn bur boenus byrra'n y byd gora oll

Anna

2011/6/2 Sian Jones <[log in to unmask]>

>  Unrhyw awgrymiadau plis - ar gyfer tatw - wedi bod yn pendroni a dadlau am
> hwn drwy'r pnawn - maen nhw'n awyddus iawn i gadw'r ystyr - hynny ydy -
> dydyn nhw ddim yn hapus i mi ddefnyddio dim byd tebyg i 'Byddwch fel y
> mynnwch' !!
>
> Diolch,
> Sian
>
>
>
>
>
>
>
>
> e: Thu, 2 Jun 2011 17:54:39 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: NID nepell
> To: [log in to unmask]
>
>  Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst
> yr holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl?
>
>
>
> Tafled i mewn i  ‘Ystafell 101’, ar ei ben!
>
>
>
> Eurwyn.
>
>
>
>
>
>
>  ------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws
> *Sent:* 02 June 2011 06:40
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: NID nepell ?? !!
>
>
>
> Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu
> (J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn dweud
>
>
>
>
> Nepell = pell
>
> Nid nepell = agos
>
>
>
> Rhian
>
>
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Geraint
> Lovgreen
> *Sent:* 01 June 2011 16:16
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: NID nepell ?? !!
>
>
>
> I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir.
>
>
>
> Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557)
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM
>
> *Subject:* NID nepell ?? !!
>
>
>
> Peidied neb byth â goddef  yr ymadrodd ‘*nid nepell*’ !
>
>
>
> *Ystyr ‘nepell’*  yw  ‘nid yn bell’  /  ‘heb fod ymhell’  =  h.y.    =
> *YN AGOS*.
>
>
>
> Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes gwerth
> eu halen; OND …
>
>
>
> Mae dweud ‘*nid* nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt;
>
> oherwydd fod *dau* ‘namyn’ (‘minws’) yn creu *un* ‘positif’!
>
> Yn nhermau mathemateg, mae *dyblu’r negyddol* yn gyfystyr â *chadarnhau’r
> cadarnhaol*.
>
>
>
> *Felly*:
>
>
>
> *Ystyr ‘NID nepell’*  yw  ‘*Nid* nid ymhell’  =  nid yn agos  =  h.y.    *YN
> BELL* !!
>
>
>
> Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y
> cyfryngau a’r wasg Gymreig.
>
>
>
> Eurwyn.
>  ------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Sian Roberts
> *Sent:* 01 June 2011 10:45
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont?
>
> Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont.
>
>
>
> Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da.
>
>
>
> Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"?
>
>
>
> Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn?
>
>
>
> Cofion
>
>
>
> Siân
>
>
>
> On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote:
>
>
>
> *'Anglesey* - Is a large *island* lying just *offshore* from the northwest
> Welsh coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm
>
>
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* Huw Tegid <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM
>
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i.  Ar ôl gweld cynnig
> Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir.
> Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’?
>
>
>
> Cofion gorau,
>
>
>
> Huw
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>
> ] *On Behalf Of *Geraint Lovgreen
> *Sent:* 31 Mai 2011 22:11
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ?
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM
>
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai
> milltiroedd i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger
> Caerdydd one mae mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr
> sy'n deud 'access' ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw
> mhleidlais dros 'ger y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er
> enghreifft mae Ynysoedd Heledd ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod
> hi'n waith 7 neu 9 awr mynd yno ar fferi.
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>
>
> Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd
> eraill.
>
> Ann
>
>
>
>
>   ------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd
> *Sent:* 31 May 2011 16:46
>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a
> cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell
> iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]>
>
> Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi.
>
>   ----- Original Message -----
>
> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM
>
> *Subject:* Re: ATB/RE: offshore islands
>
>
>
> Lecio hwnnw!
>
> Anna
>
> 2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]>
>
> Ynysoedd “dros y don” !
>
>
>
> Llyr
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *Claire
> Richards
> *Sent:* 31 May 2011 15:16
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* offshore islands
>
>
>
> Yng nghyd-destun danfon nwyddau.
>
>
>
> Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar
> gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys
> Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac
> ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu
> Sheppey.
>
>
>
> Diolch.
>
> Claire
>
>
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o
> dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A
> Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
>
>
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the
> number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr
> Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
>
>
>
>
>
>
>   ------------------------------
>  No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11
>
>
>
>
>
>