Print

Print


Unrhyw awgrymiadau plis - ar gyfer tatw - wedi bod yn pendroni a dadlau am hwn drwy'r pnawn - maen nhw'n awyddus iawn i gadw'r ystyr - hynny ydy - dydyn nhw ddim yn hapus i mi ddefnyddio dim byd tebyg i 'Byddwch fel y mynnwch' !!

Diolch,
Sian








e: Thu, 2 Jun 2011 17:54:39 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: NID nepell
To: [log in to unmask]

Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst yr holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl?

 

Tafled i mewn i  ‘Ystafell 101’, ar ei ben!

 

Eurwyn.

 

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 02 June 2011 06:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NID nepell ?? !!

 

Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu (J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn dweud

 

Nepell = pell

Nid nepell = agos

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 01 June 2011 16:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NID nepell ?? !!

 

I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir.

 

Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557)

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Eurwyn Pierce Jones

Sent: Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM

Subject: NID nepell ?? !!

 

Peidied neb byth â goddef  yr ymadrodd ‘nid nepell’ !

 

Ystyr ‘nepell  yw  ‘nid yn bell’  /  ‘heb fod ymhell’  =  h.y.    =    YN AGOS.

 

Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes gwerth eu halen; OND …

 

Mae dweud ‘nid nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt;

oherwydd fod dau ‘namyn’ (‘minws’) yn creu un ‘positif’!

Yn nhermau mathemateg, mae dyblu’r negyddol yn gyfystyr â chadarnhau’r cadarnhaol.

 

Felly:

 

Ystyr ‘NID nepell  yw  ‘Nid nid ymhell’  =  nid yn agos  =  h.y.    YN BELL !!

 

Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y cyfryngau a’r wasg Gymreig.

 

Eurwyn.


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 01 June 2011 10:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont?

Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont.

 

Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da.

 

Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"?

 

Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn?

 

Cofion

 

Siân

 

On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote:

 

'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm 

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Huw Tegid

Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM

Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i.  Ar ôl gweld cynnig Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir.  Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’?

 

Cofion gorau,

 

Huw

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 31 Mai 2011 22:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM

Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai milltiroedd i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud 'access' ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'ger y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd Heledd ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd yno ar fferi.

Anna

2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd eraill.

Ann

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 May 2011 16:46

Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos

Anna

2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]>

Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM

Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

 

Lecio hwnnw!

Anna

2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]>

Ynysoedd “dros y don” !

 

Llyr

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 31 May 2011 15:16
To: [log in to unmask]
Subject: offshore islands

 

Yng nghyd-destun danfon nwyddau.

 

Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu Sheppey.

 

Diolch.

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA

 

 

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11