Unrhyw awgrymiadau plis - ar gyfer tatw - wedi bod yn pendroni a dadlau am hwn drwy'r pnawn - maen nhw'n awyddus iawn i gadw'r ystyr - hynny ydy - dydyn nhw ddim yn hapus i mi ddefnyddio dim byd tebyg i 'Byddwch fel y mynnwch' !! Diolch, Sian e: Thu, 2 Jun 2011 17:54:39 +0100 From: [log in to unmask] Subject: NID nepell To: [log in to unmask] Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst yr holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl? Tafled i mewn i ‘Ystafell 101’, ar ei ben! Eurwyn. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 02 June 2011 06:40 To: [log in to unmask] Subject: Re: NID nepell ?? !! Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu (J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn dweud Nepell = pell Nid nepell = agos Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 01 June 2011 16:16 To: [log in to unmask] Subject: Re: NID nepell ?? !! I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir. Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557) ----- Original Message ----- From: Eurwyn Pierce Jones To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM Subject: NID nepell ?? !! Peidied neb byth â goddef yr ymadrodd ‘nid nepell’ ! Ystyr ‘nepell’ yw ‘nid yn bell’ / ‘heb fod ymhell’ = h.y. = YN AGOS. Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes gwerth eu halen; OND … Mae dweud ‘nid nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt; oherwydd fod dau ‘namyn’ (‘minws’) yn creu un ‘positif’! Yn nhermau mathemateg, mae dyblu’r negyddol yn gyfystyr â chadarnhau’r cadarnhaol. Felly: Ystyr ‘NID nepell’ yw ‘Nid nid ymhell’ = nid yn agos = h.y. YN BELL !! Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y cyfryngau a’r wasg Gymreig. Eurwyn. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 01 June 2011 10:45 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont? Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont. Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da. Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"? Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn? Cofion Siân On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote: 'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm ----- Original Message ----- From: Huw Tegid To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i. Ar ôl gweld cynnig Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir. Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’? Cofion gorau, Huw From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 31 Mai 2011 22:11 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ? ----- Original Message ----- From: anna gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai milltiroedd i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud 'access' ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'ger y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd Heledd ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd yno ar fferi. Anna 2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]> Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd eraill. Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 31 May 2011 16:46 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos Anna 2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]> Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi. ----- Original Message ----- From: anna gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Lecio hwnnw! Anna 2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]> Ynysoedd “dros y don” ! Llyr From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Sent: 31 May 2011 15:16 To: [log in to unmask] Subject: offshore islands Yng nghyd-destun danfon nwyddau. Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu Sheppey. Diolch. Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11