Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst yr holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl? Tafled i mewn i ‘Ystafell 101’, ar ei ben! Eurwyn. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 02 June 2011 06:40 To: [log in to unmask] Subject: Re: NID nepell ?? !! Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu (J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn dweud Nepell = pell Nid nepell = agos Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 01 June 2011 16:16 To: [log in to unmask] Subject: Re: NID nepell ?? !! I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir. Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557) ----- Original Message ----- From: Eurwyn Pierce Jones <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM Subject: NID nepell ?? !! Peidied neb byth â goddef yr ymadrodd ‘nid nepell’ ! Ystyr ‘nepell’ yw ‘nid yn bell’ / ‘heb fod ymhell’ = h.y. = YN AGOS. Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes gwerth eu halen; OND … Mae dweud ‘nid nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt; oherwydd fod dau ‘namyn’ (‘minws’) yn creu un ‘positif’! Yn nhermau mathemateg, mae dyblu’r negyddol yn gyfystyr â chadarnhau’r cadarnhaol. Felly: Ystyr ‘NID nepell’ yw ‘Nid nid ymhell’ = nid yn agos = h.y. YN BELL !! Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y cyfryngau a’r wasg Gymreig. Eurwyn. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 01 June 2011 10:45 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont? Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont. Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da. Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"? Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn? Cofion Siân On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote: 'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm ----- Original Message ----- From: Huw Tegid <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i. Ar ôl gweld cynnig Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir. Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’? Cofion gorau, Huw From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 31 Mai 2011 22:11 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ? ----- Original Message ----- From: anna <mailto:[log in to unmask]> gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai milltiroedd i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud 'access' ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'ger y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd Heledd ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd yno ar fferi. Anna 2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]> Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd eraill. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 31 May 2011 16:46 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos Anna 2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]> Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi. ----- Original Message ----- From: anna gruffydd <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM Subject: Re: ATB/RE: offshore islands Lecio hwnnw! Anna 2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]> Ynysoedd “dros y don” ! Llyr From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Sent: 31 May 2011 15:16 To: [log in to unmask] Subject: offshore islands Yng nghyd-destun danfon nwyddau. Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu Sheppey. Diolch. Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11