Print

Print


Mae hynny'n wir Claire! Difyr ydi iaith ynde.


--------------------------------------------------------------------------------


Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am gofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni! / Sign this petition calling for a Fully Welsh Cofnod in our Assembly!

http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=589

  ----- Original Message ----- 
  From: Claire Richards 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, June 30, 2011 2:43 PM
  Subject: Re: Help us


  Mae "cymorth" hefyd yn cyfieithu "support" yn aml iawn.

   

  Wedi dweud hynny, mae "llinell gymorth" a "desg gymorth" yn gweithio'n well i mi na "llinell help" a "desg help".

   

  Claire

   

  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
  Sent: 30 June 2011 14:38
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: Help us

   

  Dwi ddim yn dallt be di'r broblem - roedd "helpu" yn ddigon da i William Salesbury ganrifoedd yn ol !!  Mae'n mynd yn ôl i'r 15fed ganrif! Os ydan ni am osgoi pob gair o darddiad estron Duw a'n helpo (wps!) !

   

  Go brin y baswn i fyth yn defnyddio "cynorthwyo" i gyfieithu "to help" - fel y dywedodd Ann mae'n gweddu i "to assist".

   

  Felly hefyd "help" am "Help" a "cymorth" am "assistance" - dwi'n gweld y botymau "cymorth" ar wefannau'r dyddiau hyn (am "help") yn chwithig braidd.

   

  Geraint

   


------------------------------------------------------------------------------


  Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am gofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni! / Sign this petition calling for a Fully Welsh Cofnod in our Assembly!

   

  http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=589

    ----- Original Message ----- 

    From: Ann Corkett 

    To: [log in to unmask] 

    Sent: Thursday, June 30, 2011 2:22 PM

    Subject: Re: Help us

     

    Efallai gellid defnyddio "cynorthwyo" yn yr un cywair ag "assist".

     

    Gallaf ddychmygu gartwn mewn cylchgrawn i ddywsgwyr: dysgwr brwd yn y mor yn gweiddi "Cynorthwya fi! Na, sori, mae'n ddrwg gen i; Cynorthwywch fi; Cymorth! Help! HELP!

     

    Ann


----------------------------------------------------------------------------

    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
    Sent: 30 June 2011 14:16
    To: [log in to unmask]
    Subject: Re: Help us

     

    Dwi'n cael fy hun yn defnyddio 'helpu' yn amlach y dyddiau hyn, pan na fyddwn wedi ystyried gwneud hynny yn y gorffennol. Wn i ddim pam, yn iawn! Ddim mewn adroddiadau pwyllgor a ballu (eto) ond mewn darnau ychydig llai ffurfiol. Falla mod i'n ymlacio mwy wrth fynd yn hyn....!

     

    Sioned

     

     

    On 30 Jun 2011, at 14:10, anna gruffydd wrote:

     

    Cytuno - ac roedd Cen Cymraeg Clir bob amsar yn pleidio helpu yn hytrach na chynorthwyo, rhoi cymorth - fel deudodd Ger dyna be dan ni'n ddeud te?

    Anna

    2011/6/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

    Dwi'm yn gweld dim byd yn ddiog am "Helpwch ni" - dyna'r ffordd Gymraeg naturiol o ddweud hyn.

     

    Geraint

     


----------------------------------------------------------------------------


    Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am gofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni! / Sign this petition calling for a Fully Welsh Cofnod in our Assembly!

     

    http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=589

      ----- Original Message ----- 

      From: Angharad Evans 

      To: [log in to unmask] 

      Sent: Thursday, June 30, 2011 12:02 PM

      Subject: Help us

       

      Prynhawn da

       

      A oes ffordd gwell o gyfieithu Help Us yn hytrach na defnyddio cymorth?   Helpwch ni - ffordd dduog o gyfieithu??!!

       

      Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth fel yr arfer.

       

      Cofion

       

      Angharad