Print

Print


Ond disgrifiad yn hytrach na therm ydi hwnna, ynte?

Beth am 'to llithren', neu 'to llethr ddi-dor'. Neu "to sleid cath" hyd yn oed.
  ----- Original Message ----- 
  From: Berwyn Jones 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, June 01, 2011 1:03 PM
  Subject: Re: catslide roof


  Ar td 137 yn ei lyfr 'Y Bwthyn Cymreig' mae Eurwyn Wiliam yn dweud: 'Mae dau brif fath o ffenestr ddormer: y ddormer to catslide syml ar oledd a ddilynai godiad y to, ...'


  Ar sail hynny: to (bach) sy'n dilyn codiad y to/y prif to ?


  Berwyn


  2011/6/1 Tegwen Williams <[log in to unmask]>

    Bore da

    Oes rhywun yn gwybod am derm Cymraeg am 'catslide roof'. Dyma be ydy o:


    A catslide roof. 

    This is a house with a single-storey back addition with

    the roof in one continuous catslide.


    Diolch ymlaen llaw,
    Tegwen