Efallai gellid defnyddio “cynorthwyo” yn yr un cywair ag “assist”.

 

Gallaf ddychmygu gartwn mewn cylchgrawn i ddywsgwyr: dysgwr brwd yn y mor yn gweiddi “Cynorthwya fi! Na, sori, mae’n ddrwg gen i; Cynorthwywch fi; Cymorth! Help! HELP!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 30 June 2011 14:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Help us

 

Dwi'n cael fy hun yn defnyddio 'helpu' yn amlach y dyddiau hyn, pan na fyddwn wedi ystyried gwneud hynny yn y gorffennol. Wn i ddim pam, yn iawn! Ddim mewn adroddiadau pwyllgor a ballu (eto) ond mewn darnau ychydig llai ffurfiol. Falla mod i'n ymlacio mwy wrth fynd yn hyn....!

 

Sioned

 

 

On 30 Jun 2011, at 14:10, anna gruffydd wrote:



Cytuno - ac roedd Cen Cymraeg Clir bob amsar yn pleidio helpu yn hytrach na chynorthwyo, rhoi cymorth - fel deudodd Ger dyna be dan ni'n ddeud te?

Anna

2011/6/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Dwi'm yn gweld dim byd yn ddiog am "Helpwch ni" - dyna'r ffordd Gymraeg naturiol o ddweud hyn.

 

Geraint

 



Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am gofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni! / Sign this petition calling for a Fully Welsh Cofnod in our Assembly!

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Angharad Evans

Sent: Thursday, June 30, 2011 12:02 PM

Subject: Help us

 

Prynhawn da

 

A oes ffordd gwell o gyfieithu Help Us yn hytrach na defnyddio cymorth?   Helpwch ni - ffordd dduog o gyfieithu??!!

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth fel yr arfer.

 

Cofion

 

Angharad