Ymgynghori ynglŷn â deddfwriaeth
newydd maen nhw felly go brin bod dim byd ar gael eto. Dw i'n meddwl bod angen
osgoi 'meddiant' oherwydd weithiau mae'r nwyddau'n cael eu gadael yn y tŷ
ond o dan ryw fath o drefniant gyda'r beilïod ar gyfer talu'r ddyled - h.y. fe all
beili 'gymryd rheolaeth dros' nwyddau a'u gadael yno ond os nad yw'r ddyled yn
cael ei thalu, symud y nwyddau oddi yno wedyn. Cymhleth!
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 29 Mehefin 2011
12:41
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Taking Control
of Goods
Mewn cyd-destun fel hyn, cadw at y sgript
sy'n ddoethaf, os oes modd. Oes rhywbeth mewn deddfwriaeth berthnasol? Os nad
oes, mae'n fwy na phosib fod dogfennau perthnasol ar wefannau'r Gwasanaeth
Llysoedd neu'r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Os nad oes dim yno, er mor wrthun fo
ymadroddion megis 'cymryd meddiant o' mi fyddai'n well cadw at ieithwedd y
maes.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
From:
Sent: 29 June 2011 11:45
To:
[log in to unmask]
Subject: Taking Control of Goods
Cyd-destun: gwaith beilïod. Y term cyfreithiol am hyn oedd
''seizure of goods' ond yn y ddeddfwriaeth newydd sy'n ymwneud â'r maes, mae'n
cael ei alw yn 'taking control of goods'. Oes gan rywun awgrym da? Un o'r prif
resymau dros ddiwygio'r gyfraith yn y maes yw cael gwared â thermau hynafol ac
felly mae angen rhywbeth syml a dealladwy ond fasai'n well gen i osgoi rhywbeth
hyll fel 'cymryd rheolaeth o' a thermau sy'n cael eu defnyddio mewn
cyd-destunau eraill yn y maes e.e. meddiannu.
Carolyn
This transmission is intended for the named addressee(s)
only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED
and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject
to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall
gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a
dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad
oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei
chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y
neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae
modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad