Cyd-destun: gwaith beilïod. Y term cyfreithiol am hyn oedd ''seizure of goods' ond yn y ddeddfwriaeth newydd sy'n ymwneud â'r maes, mae'n cael ei alw yn 'taking control of goods'. Oes gan rywun awgrym da? Un o'r prif resymau dros ddiwygio'r gyfraith yn y maes yw cael gwared â thermau hynafol ac felly mae angen rhywbeth syml a dealladwy ond fasai'n well gen i osgoi rhywbeth hyll fel 'cymryd rheolaeth o' a thermau sy'n cael eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill yn y maes e.e. meddiannu. Carolyn