Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont?
Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont.

Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da.

Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"?

Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn?

Cofion

Siân

On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote:

'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">Huw Tegid
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands

Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i.  Ar ôl gweld cynnig Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir.  Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’?
 
Cofion gorau,
 
Huw
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 31 Mai 2011 22:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
 
Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
 

Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai milltiroedd i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud 'access' ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'ger y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd Heledd ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd yno ar fferi.

Anna

2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd eraill.
Ann
 
 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 May 2011 16:46
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
 

Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos

Anna

2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]>
Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" style="color: blue; text-decoration: underline; ">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
 

Lecio hwnnw!

Anna

2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]>
Ynysoedd “dros y don” !
 
Llyr
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 31 May 2011 15:16
To: [log in to unmask]
Subject: offshore islands
 
Yng nghyd-destun danfon nwyddau.
 
Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu Sheppey.
 
Diolch.
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
 
 
 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11