Rwy’n credu bod ‘ddim yn ffit?’ yn cyfeirio’n benodol at ffitrwydd corfforol pobol.

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 14 June 2011 14:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: unfit

 

Dwi ddim wedi dod ar ei draws, ond mae 'ffit' yn teimlo'n iawn i mi - allwn i nghlwad fy hun, ne mam, ne nain, yn deud - 'di hwnna ddim ffit'.

Anna

2011/6/14 Rhian Huws <[log in to unmask]>

P’nawn da bawb.

 

Tai yw’r cyd-destun. Mae TermCymru yn cynnig ‘tai heb fod yn ffit’ ar gyfer ‘unfit housing’. Dw i ddim yn or-hoff ohono, ac roeddwn i am ddefnyddio ‘anaddas’ ond wedyn gallai hynny olygu ‘unsuitable’. (Fel mae’n digwydd nid yw ‘unsuitable’ yn ymddangos yn ddogfen hon).

 

Oes rhywun wedi dod ar draws hwn o’r blaen?

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian

 

Rhian Huws

Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services

47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL

E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask]

Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492

www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk