Dyna pam yr awgrymais "lluniaeth ysgafn" !! (ond efallai ei fod yn swnio braidd yn ffurfiol i'r cyd-destun). Nia From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 13 June 2011 16:14 To: [log in to unmask] Subject: Re: get-together, nibbles Ac wedi deud hynny mae tamaid yr un mor amwys a nibbles - faswn i'n deud 'Tyd heibio am damaid heno' ac mi fasa hynny'n golygu bwyd ista i lawr (ne ella rywbeth arall ond dawn ni ddim ar ol hynny!) - fasa fy ffrind ddim yn disgwyl powliad o greision Anna 2011/6/13 anna gruffydd <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> Heb wbod yn union be di'r nibbles ... ella na bechdana ydyn nhw! Does arna i ddim isio i'r gwahoddedigion gael eu siomi chwaith, dwi jyst yn trio meddwl am rywbeth fasa'n eu denu nhw yno yn hytrach na rhywbeth sy'n swnio fel trip ysgol Sul i'r Rhyl ar bnawn glyb! Anna 2011/6/13 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> Mae bwyd bys a bawd yn awgrymu bwffe i mi, bechdanau a phethau felly. Mae nibbles yn awgrymu ychydig o greision, cnau etc. Rhag ofn i'r gwahoddedigion gael siom! Ond fedra i ddim meddwl am rywbeth yn Gymraeg chwaith..... anna gruffydd wrote: Mae bwyd bys a bawd yn bosibilrwydd arall i'r nibbles Anna 2011/6/13 Sian Roberts <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> <mailto:[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>> Beth am "parti bach" am get-together? On 13 Meh 2011, at 15:05, Wyn Hobson wrote: Dwy frawddeg mewn gwirionedd: We would like to invite you to an end-of-course get-together. This would be a great opportunity to share ideas over nibbles and drinks... Dau gynnig drafft: digwyddiad cymdeithasol [hynod ddi-fflach, mi wn!] rhannu syniadau dros damaid a diod Am 'PSI', gyda llaw, dw i'n rhoi cynnig ar 'Cyfieithu ar y Pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus' Wyn -- Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor/Bangor University