Beth am y dywediad 'cyrn, croen a charnau' ? ----- Original Message ----- From: MEG ELIS To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, June 07, 2011 11:52 AM Subject: Re: Warts and all Roeddwn wedi ystyried hynny (yn ei lawn liwiau) ond ofn ei fod yn cyfeirio'n ormodol at lun neu bortread o rywun - nid dyna'r union ystyr sydd yn y darn gen i, mae'n cyfeirio at gymeriad rhywun. Ond fe wnaiff y tro, sbo.... --- On Tue, 7/6/11, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote: From: Claire Richards <[log in to unmask]> Subject: Re: Warts and all To: [log in to unmask] Date: Tuesday, 7 June, 2011, 11:48 Mae’n siŵr dy fod ti wedi chwilio yng Ngeiriadur yr Academi ond rhag ofn... O dan ‘wart’ mae’n rhoi ‘’(to paint s.o.) warts and all’ mae’n rhoi ‘(portreadu/darlunio/peintio/paentio rhn.) fel y mae, gyda’i holl ffaeleddau, yn ei lawn liwiau’ Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MEG ELIS Sent: 07 June 2011 11:13 To: [log in to unmask] Subject: Warts and all Oes yna ymadrodd cynhenid (a bachog!) sy'n cyfateb i hyn? Diolch ymlaen llaw