Mae newydd droi hanner nos ac ‘roedd brawddeg olaf y
cyfieithiad yn 87 gair o hyd. Nid yw f’ymenydd yn gweithio’n iawn
mwyach. ‘Rwyf wedi llunio rhywbeth fel hyn - Rheolaethau
Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig 2006 (Addasu Rheolau Cynlluniau Presennol), ac
wedi Gwglo amrywiaethau arno, ond ‘rwy’n siwr bod rhywun (Tim?)
wedi awgrymu rhwyle i edrych am bethau fel hyn - ond ‘rwy’n rhy
flinedig i chwilio am y cyfeiriad yn yr archif. ‘wy’n ymwybodol o’r
holl anawsterau wrth drafod un o’r tylwyth teg yn Gymraeg, ond os oes ‘na
ryw “good fairy” a all gynnig cyngor erbyn y bore, byddwn i’n
ddiolchgar iawn ...
Nos da,
Ann