Rwy'n cofio rhyw rifyn o 'Any Questions pan ofynnodd holwr ifanc am gyngor at y dyfodol. Bu tipyn o ddyfynnu ar 'To this own self be true' tan i'r siaradwr olaf ar y panel ofyn 'Is that the advice you'd give to the young Hitler, the young Pol Pot, the young Yorkshire Ripper ...?'
Wnaeth Mynediad am ddim ganu "Fi yw y fi yw y fi yw y fi" heb i neb feddwl bod rhyw ystyr diwinyddol i'r peth.
Mi fase "Ydwyf yr hyn ydwyf" *efallai* yn gwneud imi feddwl hynny, ond nid "Fi ydi fi".
Geraint
----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]> Sent: Friday, June 03, 2011 5:00 PM
Subject: Re: Be who you want to be
Ond, wrth gwrs, mae ystyr diwinyddol i 'fi ydi fi', a byddai'n well
esbonio i'r cleient mai dyna (neu rywbeth yn debyg iddo) a geir yn y
Beibl fel ateb gan Dduw i Moses
"Dywedodd Duw wrth Moses, "Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl
Israel, 'Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.'"
Byddai felly, rhywbeth fel 'fi ydi fi' a mwy o ystyron iddo na'r hyn,
efallai, y byddai'r person am ei gyfleu a dylid esbonio'r ystyron os
ydych chi'n cynnig 'fi ydi fi'.
Yn bendant, petawn i i weld hwnnw ar datw byddwn i'n meddwl bod y
person yn honni mai Duw yw ef, neu wedi cael y tatw heb ddeall
goblygiadau'r gosodiad i gristnogion (ac Iddewon a Moslemiaid).
Muiris
2011/6/3 Sian Jones <[log in to unmask]>:
Da - a bachog - a llai fyth o inc (a phoen!)
________________________________
Date: Fri, 3 Jun 2011 15:16:53 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Be who you want to be
To: [log in to unmask]
Be am Fi ydi fi?
Ffon symudol: 07900061784
----- Original Message -----
From: Sian Jones
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, June 03, 2011 1:43 PM
Subject: Re: Be who you want to be
Wedi pasio'r awgrymiadau ymlaen - diolch yn fawr - mae ganddi hi, druan,
restr o ddewisiadau erbyn hyn - a hithau'n ddi-Gymraeg! Byrra amdani ddeuda
i!
Sian
________________________________
Date: Fri, 3 Jun 2011 10:04:27 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Be who you want to be
To: [log in to unmask]
neu 'bydd be ti isio fod' neu 'bydd driw i ti dy hun' ??
----- Original Message -----
From: Sian Jones
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, June 02, 2011 8:33 PM
Subject: Re: Be who you want to be
Ha ha - go dda - ia, mi awgryma i hon.
________________________________
Date: Thu, 2 Jun 2011 20:38:30 +0200
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Be who you want to be
To: [log in to unmask]
Pam dyn nhw'n yn lecio 'byddwch fel y mynnwch' tybed? Llai ffurfiol ella -
'bydd be t'isio' (mae'n fyrrach ac o wbod bod tatws (maddeuwch y diffyg to
bach, nid llysia sy dan sylw yma) yn bur boenus byrra'n y byd gora oll
Anna
2011/6/2 Sian Jones <[log in to unmask]>
Unrhyw awgrymiadau plis - ar gyfer tatw - wedi bod yn pendroni a dadlau am
hwn drwy'r pnawn - maen nhw'n awyddus iawn i gadw'r ystyr - hynny ydy -
dydyn nhw ddim yn hapus i mi ddefnyddio dim byd tebyg i 'Byddwch fel y
mynnwch' !!
Diolch,
Sian
e: Thu, 2 Jun 2011 17:54:39 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: NID nepell
To: [log in to unmask]
Os ydy ‘nepell’ felly gant y cant yn gyfystyr efo ‘pell’, yna pam gebyst yr
holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio ‘nepell’ o gwbl?
Tafled i mewn i ‘Ystafell 101’, ar ei ben!
Eurwyn.
________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 02 June 2011 06:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NID nepell ?? !!
Newydd edrych yn y Geiriadur Mawr, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu
(J.Elwyn Hughes), a Geiriau Lletchwith (Geraint Lewis) ac mae’r tri yn dweud
Nepell = pell
Nid nepell = agos
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 01 June 2011 16:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: NID nepell ?? !!
I'r gwrthwyneb Eurwyn, sori - "nid nepell" sydd yn gywir.
Gweler Gramadeg Peter Wynn Thomas (tud. 557)
----- Original Message -----
From: Eurwyn Pierce Jones
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, June 01, 2011 3:51 PM
Subject: NID nepell ?? !!
Peidied neb byth â goddef yr ymadrodd ‘nid nepell’ !
Ystyr ‘nepell’ yw ‘nid yn bell’ / ‘heb fod ymhell’ = h.y. = YN
AGOS.
Mae hwnnw’n ymadrodd croyw, dealladwy a chlir i bob Cymro a Chymraes gwerth
eu halen; OND …
Mae dweud ‘nid nepell’ yn dyblu’r negyddol, i gyfleu ystyr cwbl hurt;
oherwydd fod dau ‘namyn’ (‘minws’) yn creu un ‘positif’!
Yn nhermau mathemateg, mae dyblu’r negyddol yn gyfystyr â chadarnhau’r
cadarnhaol.
Felly:
Ystyr ‘NID nepell’ yw ‘Nid nid ymhell’ = nid yn agos = h.y. YN BELL
!!
Gyda llaw, PLIS wnaiff rhywun basio’r wybodaeth hon ymlaen i bobl y
cyfryngau a’r wasg Gymreig.
Eurwyn.
________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 01 June 2011 10:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Ond, oni allai'r ynysoedd hyn fod yn rhy bell o'r lan i gael pont?
Mae "heb bont" yn awgrymu y byddai modd codi pont.
Rwy'n meddwl bod "oddi ar y glannau" yn cyfleu'r ystyr yn eitha da.
Beth yw'r gwrthwynebiad i "arfordir"?
Soniodd rhywun am "nepell". Onid "nid nepell" sy'n iawn?
Cofion
Siân
On 1 Meh 2011, at 10:40, Gareth Jones wrote:
'Anglesey - Is a large island lying just offshore from the northwest Welsh
coastline', yn ol http://www.ukcoastguide.co.uk/uk_islands.htm
----- Original Message -----
From: Huw Tegid
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, June 01, 2011 5:32 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Mae hwnna’n fwy eglur na’r Saesneg, yn fy marn i. Ar ôl gweld cynnig
Geraint, mi feddyliais i pa mor amwys ydi’r un Saesneg, a dweud y gwir.
Onid ydi’r rhan fwyaf o ynysoedd ‘off shore’?
Cofion gorau,
Huw
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 31 Mai 2011 22:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Be sy'n bod ar "Ynysoedd heb bont (atynt)" ?
----- Original Message -----
From: anna gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 31, 2011 5:44 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Pa mor fanwl gywir ydi 'ger'? Mae Nefyn ger Pwllheli ond mae rai milltiroedd
i ffwrdd tydi, gellid hyd yn oed deud bod Pontypridd ger Caerdydd one mae
mhellach wedyn. Dwi'n lecio 'ger' - amwys, fel ein brodyr sy'n deud 'access'
ac 'involve' a'r holl eiria amwys eraill na. Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'ger
y glannau' (a beth bynnag mae iddo dinc) - er enghreifft mae Ynysoedd Heledd
ger y glannau - dim ond 60 milltir (er ei bod hi'n waith 7 neu 9 awr mynd
yno ar fferi.
Anna
2011/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Wedi defnyddio “ger y glannau”, ond nid am bethau mor bell ag ynysoedd
eraill.
Ann
________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 May 2011 16:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Be am 'oddi ar y glannau'? (gan fod 'arfordir' dan lach aml un yn y cylch a
cweit reit tw. 'Nepell o'r glannau'? - fel arfer tydyn nhw ddim yn bell
iawn, ac mae offshore i mi yn awgrymu rhywbeth reit agos
Anna
2011/5/31 Gareth Jones <[log in to unmask]>
Mae 'dros y don' yn awgrymu 'tramor' i mi.
----- Original Message -----
From: anna gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 31, 2011 11:20 PM
Subject: Re: ATB/RE: offshore islands
Lecio hwnnw!
Anna
2011/5/31 Translation Unit <[log in to unmask]>
Ynysoedd “dros y don” !
Llyr
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire
Richards
Sent: 31 May 2011 15:16
To: [log in to unmask]
Subject: offshore islands
Yng nghyd-destun danfon nwyddau.
Yr hyn sydd ganddyn nhw, dwi’n meddwl, yw ynysoedd mae’n rhaid teithio ar
gwch, llong neu awyren i’w cyrraedd, megis Orkney, Shetland, Ynys Wyth, Ynys
Manaw, y rhan fwyaf o Ynysoedd Heledd, Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili ac
ati, yn hytrach nag ynysoedd â phont/ydd megis Ynys Môn, Skye, Canvey neu
Sheppey.
Diolch.
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o
dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 27A
Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DA.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the
number 4276774, and the address of the registered office is 27A Merthyr
Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA
________________________________
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3671 - Release Date: 05/31/11