Print

Print


Mae Wyn yn llygad ei le. Yn wreiddiol, roedd neb yn golygu 'rhywun' a hefyd 'unrhyw, rhyw' o flaen enw, ond roedd yn digwydd mor aml mewn cyd-destun negyddol, trodd i olygu 'no-one'. (Digwyddodd yr un peth yn achos dim oedd yn golygu 'rhywbeth' yn wreiddiol.)

Yn ôl GPC, roedd nepell yn golygu 'Yn bell (i ffwrdd)' a hefyd '(am amser) Yn hir, yn bell i ffwrdd', a dyna'r brif ystyr hyd heddiw (felly nid nepell = 'ddim yn bell').

Ond dyma William Owen-Pughe yn ei Eiriadur (1803) yn diffinio nebpell fel 'at no distance, not far', a dyna ddechrau drysu pobl!

Un o ddiffiniadau GPC (o'r gair gobell2) yw 'Nid nepell: somewhat far; a fair distance away' (o ddyddiau R. J. Thomas fel Golygydd)  sy'n dangos bod yr ystyr yn eitha hyblyg!

Andrew
--
Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH
Andrew Hawke | Managing Editor| University of Wales Dictionary of the Welsh Language, University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK
ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44 (0)1970 631039 | [log in to unmask] | gwe/web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol Cymru / This message does not necessarily reflect the opinion of the University of Wales
Date:    Thu, 2 Jun 2011 15:38:18 +0100
From:    Wyn Hobson <[log in to unmask]>
Subject: Nepell
MIME-Version: 1.0
Content-Type: text/plain; charset="UTF-8"

Meddai Rhian Huws:

> Dwi ddim am rygnu ymlaen am hyn, na bwrw amheuaeth dros gywirdeb GPC ychwaith (feiddiwn i ddim!), ond mae’r
> Golygiadur hefyd yn nodi mai ‘pell’ yw ystyr ‘nepell’ ­ dyna o leiaf bum ffynhonnell uchel eu parch ac eeang eu defnydd
> yn dweud yr un peth!

> Ble mae hyn yn ein gadael ni, gyfieithwyr druan, heb sôn am bobl y cyfryngau?!


Un o brif swyddogaethau geiriaduron cynhwysfawr safonol megis GPC a Geiriadur Rhydychen yw cyflwyno cofnod hanesyddol o'r holl ystyron y mae gair wedi meddu arnynt. Yn y ddwy iaith, ceir ambell achos lle mae ystyr gair wedi newid mor llwyr, dros gyfnod o ganrifoedd, fel bod ei ystyr cyfoes yn wrthwyneb union i'w ystyr gwreiddiol. Yn amlwg mae 'nepell' yn un o'r geiriau hyn.

Fel y mae Rhian wedi nodi, mae o leiaf bump o awdurdodau ieithyddol Cymraeg wedi bwrw llinyn mesur dros etymoleg y gair, ac wedi penderfynu mai 'pell' yw'r ystyr cywiraf. Wela' i ddim rheswm dros beidio â derbyn y consensws unfrydol hwnnw. Yn bersonol, dw i wedi dilyn arweiniad J. Elwyn Hughes a Peter Wynn Thomas ynglyn â 'nepell' ers blynyddoedd.

Wyn