Mae Wyn yn llygad ei le. Yn wreiddiol, roedd neb yn golygu 'rhywun' a hefyd 'unrhyw, rhyw' o flaen enw, ond roedd yn digwydd mor aml mewn cyd-destun negyddol, trodd i olygu 'no-one'. (Digwyddodd yr un peth yn achos dim oedd yn golygu 'rhywbeth' yn wreiddiol.) Yn ôl GPC, roedd nepell yn golygu 'Yn bell (i ffwrdd)' a hefyd '(am amser) Yn hir, yn bell i ffwrdd', a dyna'r brif ystyr hyd heddiw (felly nid nepell = 'ddim yn bell'). Ond dyma William Owen-Pughe yn ei Eiriadur (1803) yn diffinio nebpell fel 'at no distance, not far', a dyna ddechrau drysu pobl! Un o ddiffiniadau GPC (o'r gair gobell2) yw 'Nid nepell: somewhat far; a fair distance away' (o ddyddiau R. J. Thomas fel Golygydd) sy'n dangos bod yr ystyr yn eitha hyblyg! Andrew -- Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH Andrew Hawke | Managing Editor| University of Wales Dictionary of the Welsh Language, University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44 (0)1970 631039 | [log in to unmask] | gwe/web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/ Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol Cymru / This message does not necessarily reflect the opinion of the University of Wales >Date: Thu, 2 Jun 2011 15:38:18 +0100 >From: Wyn Hobson <[log in to unmask]> >Subject: Nepell >MIME-Version: 1.0 >Content-Type: text/plain; charset="UTF-8" > >Meddai Rhian Huws: > > > Dwi ddim am rygnu ymlaen am hyn, na bwrw > amheuaeth dros gywirdeb GPC ychwaith (feiddiwn i ddim!), ond mae’r > > Golygiadur hefyd yn nodi mai ‘pell’ yw > ystyr ‘nepell’ dyna o leiaf bum > ffynhonnell uchel eu parch ac eeang eu defnydd > > yn dweud yr un peth! > > > Ble mae hyn yn ein gadael ni, gyfieithwyr > druan, heb sôn am bobl y cyfryngau?! > > >Un o brif swyddogaethau geiriaduron cynhwysfawr >safonol megis GPC a Geiriadur Rhydychen yw >cyflwyno cofnod hanesyddol o'r holl ystyron y >mae gair wedi meddu arnynt. Yn y ddwy iaith, >ceir ambell achos lle mae ystyr gair wedi newid >mor llwyr, dros gyfnod o ganrifoedd, fel bod ei >ystyr cyfoes yn wrthwyneb union i'w ystyr >gwreiddiol. Yn amlwg mae 'nepell' yn un o'r geiriau hyn. > >Fel y mae Rhian wedi nodi, mae o leiaf bump o >awdurdodau ieithyddol Cymraeg wedi bwrw llinyn >mesur dros etymoleg y gair, ac wedi penderfynu >mai 'pell' yw'r ystyr cywiraf. Wela' i ddim >rheswm dros beidio â derbyn y consensws >unfrydol hwnnw. Yn bersonol, dw i wedi dilyn >arweiniad J. Elwyn Hughes a Peter Wynn Thomas >ynglyn â 'nepell' ers blynyddoedd. > >Wyn