Efallai gellid defnyddio "cynorthwyo" yn yr un cywair ag "assist". Gallaf ddychmygu gartwn mewn cylchgrawn i ddywsgwyr: dysgwr brwd yn y mor yn gweiddi "Cynorthwya fi! Na, sori, mae'n ddrwg gen i; Cynorthwywch fi; Cymorth! Help! HELP! Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron Sent: 30 June 2011 14:16 To: [log in to unmask] Subject: Re: Help us Dwi'n cael fy hun yn defnyddio 'helpu' yn amlach y dyddiau hyn, pan na fyddwn wedi ystyried gwneud hynny yn y gorffennol. Wn i ddim pam, yn iawn! Ddim mewn adroddiadau pwyllgor a ballu (eto) ond mewn darnau ychydig llai ffurfiol. Falla mod i'n ymlacio mwy wrth fynd yn hyn....! Sioned On 30 Jun 2011, at 14:10, anna gruffydd wrote: Cytuno - ac roedd Cen Cymraeg Clir bob amsar yn pleidio helpu yn hytrach na chynorthwyo, rhoi cymorth - fel deudodd Ger dyna be dan ni'n ddeud te? Anna 2011/6/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Dwi'm yn gweld dim byd yn ddiog am "Helpwch ni" - dyna'r ffordd Gymraeg naturiol o ddweud hyn. Geraint _____ Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am gofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni! / Sign this petition calling for a Fully Welsh Cofnod in our Assembly! <http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signato ries.htm?pet_id=589> http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signator ies.htm?pet_id=589 ----- Original Message ----- From: Angharad Evans <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, June 30, 2011 12:02 PM Subject: Help us Prynhawn da A oes ffordd gwell o gyfieithu Help Us yn hytrach na defnyddio cymorth? Helpwch ni - ffordd dduog o gyfieithu??!! Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth fel yr arfer. Cofion Angharad