On Jun 22, 2011, Eldred Bet wrote: > Diolch Dafydd ac Eurwyn am y cynigion. > > Mae yna ystafell 'offer TG' ar wah?n i'r rhain (chi'n iawn Dafydd, mae un ar bob llawr), ac mae'n bosib y byddai pobl yn meddwl mai'r adran TG oedd tu ?l i ddrws 'Ystafell TG', ond beth yw'ch barn chi am Ystafell 'Rhwydweithiau TG', neu 'Rhyng-gysylltu TG'? Os oes yna ystafell ar wahan i 'offer TG' yna mae 'Ystafell Rhwydwaith' yn debygol o fod yn ddisgrifiad cywir. Mi fyddai cyfieithiad mwy uniongyrchol fel 'Ystafell Both TG' yn addas hefyd am nad oes raid iddo fod yn rywbeth dealladwy i staff yn gyffredinol. Mae'n dibynnu llawer ar be sy'n cael ei ffafrio gan y bobl gynlluniodd yr isadeiledd TG. Fasen i'n ffafrio ddefnyddio 'Rhwydwaith TG'.