> Os ydy 'nepell' felly gant y cant yn gyfystyr efo 'pell', yna > pam gebyst yr holl gymhlethu diangen, wrth foddran defnyddio > 'nepell' o gwbl? Fe all fod yn hollol gyfystyr heb fod yn gwbl gydgyfnewidiol ym mhob cyd-destyn. Beth bynnag am hynny rhaid parchu cystrawen naturiol siaradwyr yr iaith. Mae rhai ohonom yn dal i ddweud "o duachaf" (neu "od uchaf" yn ol Llyfr Mawr y Bruce) er bod "uwchben" llawn cystal (os nad yn gydgyfnewidiol...). Na waherddwch inni, innit. Y rhai sy'n mynnu defnyddio "nepell" heb y "nid" sy'n od (neu'n feirdd, sy cystal peth). Mi fydd rhywun yn mynnu bod cyplysnod i fod yn "cyd-gyfnewidiol". Rydw i'n amau nad oes yn y Gymraeg Go Iawn na gair pumsill na hwy.