Print

Print


Rwy'n meddwl y byddwn i'n cadw at 'ddenu', Catrin. Dyna beth ma'r Saesneg yn ceisio ei ddweud ife? Neu, os wyt ti am ei gwneud hi'n fwy rhagweithiol, "Orielau'n mynd ati i ddenu pobl hŷn"? 
 
Mae'n siŵr bod 'ymgysylltu â' yn gyfleus pan fo rhywun yn ymgodymu â Saenseg jargonllyd, ond a ydy'r gair hwnnw yn awgrymu rhyw fath o 'link into' 'connect oneself up' 'plug into' sy'n wahanol i'r rhan fwyaf o ystyron 'engage'? Mae'n dibynnu ar y cyd-destun, wrth gwrs, ond gallai ymadroddion megis 'meithrin perthynas', 'ennyn diddordeb', 'meithrin cyswllt â', 'gwella'r cysylltiadau â', ayyb, wneud y tro weithiau.
 
Quality of Silence - Taw piau hi!!
 
 
  _____  


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 26 May 2011 12:14
To: [log in to unmask]
Subject: The Quality of Silence

 

Bore da

 

Prosiect yw hwn sy'n annog pobl  hŷn i 'engagio' (ie, y gair yna eto) gydag orielau celf ac artistiaid proffesiynol. 

 

Dyw 'Ansawdd Tawelwch' ddim yn swnio'n iawn rhywsut, ond dwi'n gyndyn o grwydro rhy bell o'r gwreiddiol gydag er enghraifft 'Rhinweddau Tawelwch'

 

O ran 'engage' yn y cyd-destun hwn: 'Galleries engaging with older people', tybed a fyddai 'Orielau'n denu pobl hŷn' yn iawn te ydi o braidd yn oddefol - ddim yn ddigon rhagweithiol?

 

Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw awgrymiadau ar gyfer y naill neu'r llall o'r rhain

 

Catrin

 

**********************************************************************

Privileged/Confidential Information may be contained in this message. If you are not the addressee indicated in this message (or responsible for delivery of the message to such person), you may not copy or deliver this message to anyone. In such case, you should destroy this message and kindly notify the sender by reply email. Please advise immediately if you or your employer does not consent to Internet email for messages of this kind. Opinions, conclusions and other information in this message that do not relate to the official business of the Council of the City and County of Cardiff shall be understood as neither given nor endorsed by it. All e-mail sent to or from this address will be processed by Cardiff County Councils Corporate E-mail system and may be subject to scrutiny by someone other than the addressee.

**********************************************************************

Mae'n bosibl bod gwybodaeth gyfrinachol yn y neges hon. Os na chyfeirir y neges atoch chi'n benodol (neu os nad ydych chi'n gyfrifol am drosglwyddo'r neges i'r person a enwir), yna ni chewch gopio na throsglwyddo'r neges. Mewn achos o'r fath, dylech ddinistrio'r neges a hysbysu'r anfonwr drwy e-bost ar unwaith. Rhowch wybod i'r anfonydd ar unwaith os nad ydych chi neu eich cyflogydd yn caniatau e-bost y Rhyngrwyd am negeseuon fel hon. Rhaid deall nad yw'r safbwyntiau, y casgliadau a'r wybodaeth arall yn y neges hon nad ydynt yn cyfeirio at fusnes swyddogol Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn cynrychioli barn y Cyngor Sir nad yn cael sel ei fendith. Caiff unrhyw negeseuon a anfonir at, neu o'r cyfeiriad e-bost hwn eu prosesu gan system E-bost Gorfforaethol Cyngor Sir Caerdydd a gallant gael eu harchwilio gan rywun heblaw'r person a enwir.

**********************************************************************