Mi wglais i gael llun o un, a gweld mai’r un welais oedd yr un y byddwn yn arfer ei galw “chwilen glaw”. Wn i ddim yn iawn pam mai hynny ydyw’r enw  ac eithrio y byddai dweud bod yna lawer ohonynt yn dŵad i’r golwg ar ôl rhyw gawod. Ar ben allt môr yn Nefyn a’r cyffiniau y gwelais i’r rhain fwyaf  - yno y dysgais yr enw – wn i ddim pa mor eang ydyw’r defnydd ohono.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 25 May 2011 15:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bloody-nosed beetle (Timarcha tenebricosa)

 

 

 

Diolch, Iwan.  Tybed a allech chi ymhelaethu tipyn?  Ym mha ardal(oedd) a ddefnyddir yr enw, a phaham?  Ydy o’n enw ar y math arbennig hwn o chwilen, yr un sy’n poeri hylif coch, yn unig?

 

Llawer o ddiolch,

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Edgar
Sent: 25 May 2011 09:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bloody-nosed beetle (Timarcha tenebricosa)

 

Chwilen glaw

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 24 May 2011 22:42
To: [log in to unmask]
Subject: bloody-nosed beetle (Timarcha tenebricosa)

 

Cafodd Bruce gais heddiw am derm ar gyfer yr uchod, ac awgrymodd, dros dro, “chwilen poeri gwaed” (“poeri” yn hytrach na “boeri” gan mai “poeri gwaed” yw’r ymadrodd cyfan).

 

Peth da iddo son am y mater heno mewn cyfarfod a Duncan Brown a Twm Elias: mae gan y chwilen enw yn y De.  Mae’n debyg bod gan y plantos yno arfer annwyl o afael yn y chwilen a gorfodi iddi boeri gwaed (hylif coch, i fod yn fanwl gywir) dros eu ffrindiau.  Ac i gyd-fynd a’r arfer mae/’roedd ganddynt rigwm sy’n cyfeirio at y chwilen fel “y ‘ffeirad du”.  Felly, ar hyn o bryd awgrym Bruce, rhag ofn nad yw pobl yn gyfarwydd a’r hen enw mwyach, yw naill ai: “chwilen poeri gwaed (offeiriad du)” neu “offeiriad du (chwilen poeri gwaed)”. Mae newydd fy nharo, gan fod “chwilen” yn fenywaidd ac “offeiriad” yn wrywaidd, hynny, efallai, fydd yn llywio’r dewis!

 

OND, mae hyn yn gadael dau gwestiwn diddorol:

(i) a all rhywun adrodd y rhigwm inni? a

(ii) a oes enw ar y chwilen yn y gogledd?

 

‘Rwy’n anfon copi o’r neges hon at Bethan Wyn Jones, ond croesewir unrhyw wybodaeth y medr y grwp ei chynnig hefyd.

 

Llawer o ddiolch,

 

Ann

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3659 - Release Date: 05/25/11