diolch! mae di mynd erbyn hyn, efo rhyw atalnodi cymhleth ond yn y dyfodol camdreiglo posib and be damned! Anna 2011/5/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > Faswn i yn rhoi "a ..... tocyn am ddim i athrawon" - dwi ddim yn gweld > bod ots am y treiglo damcaniaethol os mai lle gwag sydd yno i'w lenwi efo > ffigwr. > > Geraint > > ----- Original Message ----- > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Monday, May 23, 2011 11:37 AM > *Subject:* Re: ATB/RE: llythyrau "cyffredinol" > > Cytuno. Gwaetha'r modd nid cwestiwn oedd hwn. Fel arfer mae'r peth mewn > bocsys efo penawdau felly tydi'r broblem ddim yn bod. Ond y tro yma brawddeg > mewn llythyr oedd hi:- A total of ….. pupils’ tickets at *£8.00* each > plus … *FREE* teacher’s ticket(s) and *FREE programmes *will be available > for you to collect from me > > Dyna be achosodd y drafferth. Yn ol yr atebion sy wedi dod i law, does na > ddim ateb - dim ond cael hyd i wahanol ystryw bob tro i geisio osgoi! > > Diolch, bawb > > Anna > > 2011/5/23 David Bullock <[log in to unmask]> > >> Efallai nad yw hyn yn berthnasol yn yr enghraifft yma, ond rwy’n credu >> ei bod yn iawn weithiau troi’r peth yn gwestiwn a dweud: >> >> >> >> Faint o docynnau i ddisgyblion?...... Faint o docynnau i >> athrawon?......... >> >> >> >> Mewn brawddeg hefyd, e.e. ‘Please state the number of tickets required’ >> rwy’n credu bod ‘Dwedwch faint o docynnau...’ yn well weithiau na ‘Nodwch >> nifer y tocynnau....’ >> >> >> >> >> >> >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *Geraint >> Lovgreen >> *Sent:* 23 Mai 2011 11:11 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: llythyrau "cyffredinol" >> >> >> >> Ie, ti yn llygad dy le Huw. >> >> ----- Original Message ----- >> >> *From:* Huw Tegid <[log in to unmask]> >> >> *To:* [log in to unmask] >> >> *Sent:* Monday, May 23, 2011 11:01 AM >> >> *Subject:* Re: llythyrau "cyffredinol" >> >> >> >> Maddeuwch i mi am holi – onid “nifer y tocynnau” sy’n gywir fan hyn? >> Roeddwn i’n meddwl bod “nifer o docynnau” yn cyfleu “a number of tickets”. >> >> >> >> Cofion gorau, >> >> >> >> Huw >> >> >> >> >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Ann Corkett >> *Sent:* 21 Mai 2011 11:41 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: llythyrau "cyffredinol" >> >> >> >> Dim angen cynnwys “nifer o” ddwywaith os bydd lle yn brin. >> >> Ann >> ------------------------------ >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd >> *Sent:* 21 May 2011 11:36 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: llythyrau "cyffredinol" >> >> >> >> Diolch. Mi fwriaf olwg arno eto a phwyso a mesur y ddau. >> >> Anna >> >> 2011/5/21 Ann Corkett <[log in to unmask]> >> >> Beth am rywbeth fel hyn? >> >> Nifer of docynnau i ddisgyblion (£8 yr un): ………….. Nifer o docynnau i >> athrawon (am DDIM): ………. >> >> Ann >> ------------------------------ >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd >> *Sent:* 21 May 2011 08:54 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* llythyrau "cyffredinol" >> >> >> >> Dan ni wedi trafod sefyllfa debyg yng nghyd-destun atebion ie/nage mewn >> holiaduron. Llythyr ydi hwn sy'n mynd i rai degau o ysgolion:- >> >> A total of ….. pupils’ tickets at *£8.00* each plus … *FREE* teacher’s >> ticket(s) >> >> Mae'r hanner cynta'n iawn - '... o docynnau' ond mae'r ail hanner yn >> drafferthus: os un tocyn fydd yn y pecyn dylai ddeud "ac ... tocyn"; os dau, >> "a ... docyn"; os tri " a ... thocyn". Fel deudais i, bydd hwn yn mynd i >> ddegau o ysgolion a fedra i ddim disgwyl i'r cwsmer newid y peth bob tro. Be >> ydi'r peth gora i'w wneud? Fedra i ddim meddwl am ffordd o osgoi'r broblem, >> heblaw atalnodi'r frawddeg yn wahanol sef "cyfanswm o: ... o docynnau i >> ddisgyblion; ... i athrawon. Ai dyna be fasa'r peth gora i'w wneud, ynteu >> derbyn y bydd y peth efallai wedi'i gamdreiglo, gan ddibynnu ar y nifer, a >> gobeithio y bydd yr athrawon sy'n ei ddarllen yn sylweddoli be ydi'r broblem >> ac yn malio dim? Mae'n ddrwg gen i godi rhywbeth mor gymharol ddibwys, ond >> mae'n broblem sy'n digwydd dro ar ol tro. Diolch >> >> Anna >> ------------------------------ >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3650 - Release Date: 05/20/11 >> >> >> ------------------------------ >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3650 - Release Date: 05/20/11 >> >> >