Print

Print


Maddeuwch i mi am holi - onid "nifer y tocynnau" sy'n gywir fan hyn?  Roeddwn i'n meddwl bod "nifer o docynnau" yn cyfleu "a number of tickets". 

 

Cofion gorau, 

 

Huw



 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 21 Mai 2011 11:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: llythyrau "cyffredinol"

 

Dim angen cynnwys "nifer o" ddwywaith os bydd lle yn brin.

Ann

________________________________

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 21 May 2011 11:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: llythyrau "cyffredinol"

 

Diolch. Mi fwriaf olwg arno eto a phwyso a mesur y ddau.

Anna

2011/5/21 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Beth am rywbeth fel hyn?

Nifer of docynnau i ddisgyblion (£8 yr un): .............. Nifer o docynnau i athrawon (am DDIM): ..........

Ann

________________________________

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 21 May 2011 08:54
To: [log in to unmask]
Subject: llythyrau "cyffredinol"

 

Dan ni wedi trafod sefyllfa debyg yng nghyd-destun atebion ie/nage mewn holiaduron. Llythyr ydi hwn sy'n mynd i rai degau o ysgolion:-

A total of  ..... pupils' tickets at £8.00 each plus ... FREE teacher's ticket(s) 

Mae'r hanner cynta'n iawn - '... o docynnau' ond mae'r ail hanner yn drafferthus: os un tocyn fydd yn y pecyn dylai ddeud "ac ... tocyn"; os dau, "a ... docyn"; os tri " a ... thocyn". Fel deudais i, bydd hwn yn mynd i ddegau o ysgolion a fedra i ddim disgwyl i'r cwsmer newid y peth bob tro. Be ydi'r peth gora i'w wneud? Fedra i ddim meddwl am ffordd o osgoi'r broblem, heblaw atalnodi'r frawddeg yn wahanol sef "cyfanswm o: ... o docynnau i ddisgyblion; ... i athrawon. Ai dyna be fasa'r peth gora i'w wneud, ynteu derbyn y bydd y peth efallai wedi'i gamdreiglo, gan ddibynnu ar y nifer, a gobeithio y bydd yr athrawon sy'n ei ddarllen yn sylweddoli be ydi'r broblem ac yn malio dim? Mae'n ddrwg gen i godi rhywbeth mor gymharol ddibwys, ond mae'n broblem sy'n digwydd dro ar ol tro. Diolch

Anna

________________________________

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3650 - Release Date: 05/20/11

 

________________________________

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3650 - Release Date: 05/20/11