Onid cysoni’r gwasanaethau â’I gilydd yw’r hyn a geisir ei ddweud yma?
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 18 May 2011 15:34Subject: ATB: Align
Yndi, ac mae'n amlwg yn air mae pobl yn dechrau mwynhau ei ddefnyddio. Dw i'n dod ar ei draws o hyd dyddiau 'ma. Ond fedri di gysoni rhywbeth heb ddeud efo be? Wedi deud hynny, mae align run fath.
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 18 Mai 2011 15:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Align
Nes imi glicio "Ateb" doeddwn i ddim yn gweld y frawddeg, ond mae'n enghraifft wych o jargon a chrapiaith yndydi.
Mae "cysoni" gystal â dim yma am wn i.
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" target="_blank"> Carolyn
To: [log in to unmask]" target="_blank"> [log in to unmask]
Sent: Wednesday, May 18, 2011 3:23 PM
Subject: Align
Mae'r gair 'align' yn codi'n aml yn ddiweddar, yn enwedig yng nghyd-destun polisïau/strategaethau ac mae'n cael ei ddefnyddio weithiau mewn ffordd sy'n ddieithr i mi h.y. does dim sôn am 'aligning x and y' o gwbl, dim ond at un peth e.e.
It helps align and embed Welsh language services as an important aspect of person-centred care.
Pan fydd rhywun yn sôn am 'align' gan gyfeirio at ddau beth neu fwy, fydda'i fel rheol yn rhoi 'cysoni' neu rywbeth felly ond oes gan rywun syniad be ydi ergyd 'align' mewn brawddeg fel yr uchod?
Diolch
Carolyn