Nes imi glicio "Ateb" doeddwn i ddim yn gweld y frawddeg, ond mae'n enghraifft wych o jargon a chrapiaith yndydi. Mae "cysoni" gystal â dim yma am wn i. Geraint ----- Original Message ----- From: Carolyn To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, May 18, 2011 3:23 PM Subject: Align Mae'r gair 'align' yn codi'n aml yn ddiweddar, yn enwedig yng nghyd-destun polisïau/strategaethau ac mae'n cael ei ddefnyddio weithiau mewn ffordd sy'n ddieithr i mi h.y. does dim sôn am 'aligning x and y' o gwbl, dim ond at un peth e.e. It helps align and embed Welsh language services as an important aspect of person-centred care. Pan fydd rhywun yn sôn am 'align' gan gyfeirio at ddau beth neu fwy, fydda'i fel rheol yn rhoi 'cysoni' neu rywbeth felly ond oes gan rywun syniad be ydi ergyd 'align' mewn brawddeg fel yr uchod? Diolch Carolyn