Cefais fy nrysu wrth weld pennawd ar dudalen flaen “Y Goleuad”: “Y Pasg Bach - 1 Mai”.

 

“Ai enw arall ar Galan Mai ydy’r ‘Pasg Bach’?”, gofynnais i Bruce.  “Edrych yng Ngeiriadur y Brifysgol” meddai fo.

 

Edrychais dan “pasg”, a chael mai “Low Sunday” yw’r Pasg Bach/Bychan/Gwyn yn Saesneg, a Bruce yn chwilio a chadarnhau mai’r Sul ar ol Sul y Pasg yw hwnnw.

 

Ond y peth a’m swynodd oedd y rhigwm bach o’r 18-19 ganrif a ddyfynnwyd yn GPC (gadawaf y priflythrennau fel y maent yn y Geiriadur, gan na allaf weld unrhyw batrwm ynddynt!):

 

“Dydd sul ynyd – a dydd sul hefyd – Dydd sul y Meibion – Dydd sul y Gwrychon (pys) – dydd Sul y blodau – Pasc ewi”au [sic – yr wyau]”

 

A finnau’n meddwl na fyddai Sul y Pys byth yn dod!

 

Mae ‘na ragor o bethau diddorol dan “sul”, ond gwell imi wneud ychydig o waith defnyddiol y bore ‘ma.

 

Gobeithio ichi i gyd gael hwyl a hoe dros y Suliau.

 

Ann