Cefais fy nrysu wrth weld pennawd ar dudalen flaen “Y
Goleuad”: “Y Pasg Bach - 1 Mai”.
“Ai enw arall ar Galan Mai ydy’r ‘Pasg
Bach’?”, gofynnais i Bruce. “Edrych yng Ngeiriadur y
Brifysgol” meddai fo.
Edrychais dan “pasg”, a chael mai “Low
Sunday” yw’r Pasg Bach/Bychan/Gwyn yn Saesneg, a Bruce yn chwilio a
chadarnhau mai’r Sul ar ol Sul y Pasg yw hwnnw.
Ond y peth a’m swynodd oedd y rhigwm bach o’r
18-19 ganrif a ddyfynnwyd yn GPC (gadawaf y priflythrennau fel y maent yn y
Geiriadur, gan na allaf weld unrhyw batrwm ynddynt!):
“Dydd sul ynyd – a dydd sul hefyd – Dydd
sul y Meibion – Dydd sul y Gwrychon (pys) – dydd Sul y blodau
– Pasc ewi”au [sic – yr wyau]”
A finnau’n meddwl na fyddai Sul y Pys byth yn dod!
Mae ‘na ragor o bethau diddorol dan “sul”,
ond gwell imi wneud ychydig o waith defnyddiol y bore ‘ma.
Gobeithio ichi i gyd gael hwyl a hoe dros y Suliau.
Ann