Pallu'n golygu gwrthod yn y de! Dwi'n credu fod cau i lawr yn iawn yn y cyd-destun - cytuno efo David mai dyna fyddai'n cael ei ddweud ar lafar, a dyfyniad ydy o. Catrin ________________________________ From: Gorwel Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 17 May, 2011 15:49:08 Subject: Re: ATB/RE: shut down Yn pallu? ________________________________ From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 17 May 2011 15:40 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: shut down 'llethu'n llwyr' sydd wedi dod agosaf i mi. Neu 'cau i lawr'. ----- Original Message ----- >From:David Bullock >To:[log in to unmask] >Sent:Tuesday, May 17, 2011 3:34 PM >Subject:ATB/RE: shut down > >Tase’r pwr dab wedi yngan y geirau yn Gymraeg, mae bron yn sicr mai ‘cau lawr’ >(neu caead lawr?) y bydde fe wedi’i ddefnyddio. > >‘On i fel sen i jest yn cau lawr. On i am gysgu a pido byth â dino’ neu rywbeth >tebyg fyddai’r fersiwn *llafar*, ife? > > >From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd >Sent: 17 Mai 2011 15:05 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: shut down > >Dwi'n sylwi i ti ddefnyddio 'cau i lawr' i ddisgrifio be mae prosesau uwch yr >ymennydd yn ei wneud - ella na plygu i'r drefn, ac i'r Saesneg, a defnyddio 'cau >i lawr' ydi'r unig ffordd o gyfleu'r cyflwr?? Mae llorio i mi yn awgrymu >rhywbeth mwy ysgytwol. > >Anna >2011/5/17 Rhian Huws <[log in to unmask]> >Ydi mae’n anodd! Ro’n i am ddefnyddio cynnig Sylvia – ‘mynd i nghragen’ – nes i >mi gael gair gyda rhywun â phrofiad personol o iselder. Mae’n debyg bod >prosesau uwch yr ymennydd yn cau i lawr ac yn gwrthod gweithio a bod teimladau >o anobaith ac ati yn dod dros rywun. > > >Mae nhw’n defnyddio ‘I just seemed to shut down’ fel is-bennawd yn y darn, yn >ogystal ag mewn brawddeg. Yn y frawddeg sy’n rhagflaenu’r cymal hwn nodir: “he >was floored by an episode of depression”, felly gallwn ddefnyddio “roeddwn wedi >fy llorio’n llwyr” falle? > > > >From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Reeves, Sian >Sent: 17 May 2011 13:44 > >To: [log in to unmask] >Subject: Re: shut down > >Beth am osgoi'r geiriau Saesneg/ addasu? > > >“Roedd iselder mawr arna’i. Fedrwn i wneud dim ond cysgu..." > >Neu rywbeth tebyg? > > ________________________________ >From:Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd >Sent: 17 May 2011 13:39 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: shut down > >Dew, mae'n anodd tydi? - does na ddim byd fel tasa fo'n taro 12, yn cyfleu'r un >peth yn union. > >Anna >2011/5/17 Sian Roberts <[log in to unmask]> >I mi, ac yn ôl GPC, mae "mynd i'w gragen" yn golygu "become shy or reserved, >withdraw". >Mae "shut down" yn swnio'n fwy difrifol na hynny. >Rhywbeth fel "wedi fy llethu'n llwyr" ? > >Siân > > >On 17 Mai 2011, at 12:05, anna gruffydd wrote: > >On i'n rhyw how feddwl am fynd i nghragen hefyd, dwi cofio hefyd deud mynd i'w >gilydd; mynd yn nos arna i. > >Anna >2011/5/17 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]> >Roeddwn i wedi mynd i nghragen? > > >Jones,Lowri Catrin wrote: >Roeddwn wedi cilio o'r byd? > >On 17/05/2011 11:16, Nia Humphreys wrote: >Roeddwn wedi cyrraedd y pen neu wedi cyrraedd pen fy nhennyn? > >*From:* Discussion of Welsh language technical terminology and >vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of >*Rhian Huws >*Sent:* 17 May 2011 11:14 >*To:* [log in to unmask] >*Subject:* shut down > >Bore da bawb > >Tybed all rywun helpu gyda’r uchod. Iselder yw’r pwnc dan sylw: ‘I just >seemed to shut down. I wanted to go to sleep and not wake up ever’. > >Claf sy’n adrodd ei hanes felly gall fod yn rhywbeth eithaf llafar am wn >i. Y cynnig gorau gerbron ar hyn o bryd yw ‘Roeddwn fel pe bawn wedi dod >i stop’, ond dwi’n siwr y bydd gan rywun gynnig gwell! > >Diolch yn fawr > >Rhian > >COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57 2TP. > >Tel.01248370125 Fax.01248370052 > >www.menai.ac.uk > >Mae’r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn gyfrinachol ac at >sylw’r unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn unig. Os digwydd i’r neges >eich cyrraedd drwy gamgymeriad a fyddech gystal â chysylltu â’r person a >anfonodd y neges a dileu’r deunydd oddi ar unrhyw gyfrifiadur ac ni >ddylech gopïo, dosbarthu na dangos y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges >gynnwys safbwyntiau personol nad ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, >oni bai y nodwyd hynny’n bendant. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb >am golled neu niwed a achosir o ganlyniad i firysau yn y meddalwedd. > >This email and any attachments are confidential and intended for the >named recipient only. If it has reached you by mistake please contact >the sender and delete the material from any computer and you should not >copy, distribute or show the content to anyone. The contents of the >message may contain personal views which are not the views of Coleg >Menai, unless specifically stated. We cannot accept any liability for >any loss or damage sustained as a result of software viruses. > > > >-- >Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > >Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit >Canolfan Bedwyr >Prifysgol Bangor/Bangor University > > > >********************************************************************** >Privileged/Confidential Information may be contained in this message. If you are >not the addressee indicated in this message (or responsible for delivery of the >message to such person), you may not copy or deliver this message to anyone. In >such case, you should destroy this message and kindly notify the sender by reply >email. Please advise immediately if you or your employer does not consent to >Internet email for messages of this kind. Opinions, conclusions and other >information in this message that do not relate to the official business of the >Council of the City and County of Cardiff shall be understood as neither given >nor endorsed by it. All e-mail sent to or from this address will be processed by >Cardiff County Councils Corporate E-mail system and may be subject to scrutiny >by someone other than the addressee. >********************************************************************** >Mae'n bosibl bod gwybodaeth gyfrinachol yn y neges hon. Os na chyfeirir y neges >atoch chi'n benodol (neu os nad ydych chi'n gyfrifol am drosglwyddo'r neges i'r >person a enwir), yna ni chewch gopio na throsglwyddo'r neges. Mewn achos o'r >fath, dylech ddinistrio'r neges a hysbysu'r anfonwr drwy e-bost ar unwaith. >Rhowch wybod i'r anfonydd ar unwaith os nad ydych chi neu eich cyflogydd yn >caniatau e-bost y Rhyngrwyd am negeseuon fel hon. Rhaid deall nad yw'r >safbwyntiau, y casgliadau a'r wybodaeth arall yn y neges hon nad ydynt yn >cyfeirio at fusnes swyddogol Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn cynrychioli barn y >Cyngor Sir nad yn cael sel ei fendith. Caiff unrhyw negeseuon a anfonir at, neu >o'r cyfeiriad e-bost hwn eu prosesu gan system E-bost Gorfforaethol Cyngor Sir >Caerdydd a gallant gael eu harchwilio gan rywun heblaw'r person a enwir. >********************************************************************** > >-- >Scanned by iCritical. > >