Print

Print


Mae hyn yn wir, dwi'n cytuno efo Carolyn, Sian a Janet, "gay" ydi'r gair.
 
Er, dwi wedi'i weld o wedi'i Gymreigio yn aml mewn llefydd fel Facebook - "mae hynna'n ge" (ond byth wedi ei dreiglo!)
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Reeves, Sian
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, May 12, 2011 10:55 AM
Subject: Re: "That's so gay"!

Dwi’n cytuno â Janet.

Tasai pobl ifanc yn sgwrsio’n Gymraeg yna bydden nhw’n debygol o ddefnyddio ‘gay’ mewn brawddeg Gymraeg yn yr un ffordd ag y bydden nhw’n defnyddio ‘cool’ neu ‘safe’...mae hynna’n gay/cool/safe.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Janet Aethwy
Sent: 12 May 2011 10:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: "That's so gay"!

 

Yn fy mhrofiad i fel rhiant - dydi pobl ifanc byth yn defnyddio y gair hoyw fel rhywbeth drwg - yn anffodus dim ond y gair Saesneg "gay" sy'n cyfleu rhywbeth negyddol yn eu sgwrs yn Gymraeg.  
 Janet
> Date: Thu, 12 May 2011 10:33:03 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: "That's so gay"!
> To: [log in to unmask]
>
> http://news.bbc.co.uk/1/hi/7289390.stm
>
> Mae'r erthygl 'ma yn esbonio'r peth dwi'n credu.
>
> Ond beth fyddai disgyblion ysgol neu bobl ifanc yn ei ddefnyddio yn naturiol
> yn y Gymraeg tybed? Er bod yr ystyr yn ehangach, efallai mai "hoyw" fydden
> nhw'n ei ddefnyddio mewn ymadroddion o'r fath?
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
> Sent: 12 May 2011 10:05
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: "That's so gay"!
>
> Dyna'n union o'n i'n feddwl, Claire. Dw i erioed wedi clywed neb yn
> defnyddio 'hoyw' fel hyn yn Gymraeg. Felly mae'n beth reit od i'w gyfieithu.
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire
> Richards
> Anfonwyd/Sent: 12 Mai 2011 10:01
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: "That's so gay"!
>
> Ydi pobl yn defnyddio "hoyw" i olygu "gwael", fel y defnyddir "gay" yn
> Saesneg gan rai? (Gweler gwefan Urban Dictionary
> http://www.urbandictionary.com/define.php?term=gay)
>
> Claire
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
> Sent: 12 May 2011 08:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: "That's so gay"!
>
> Bore da!
>
> All rhywun fy helpu i gyda'r ymadrodd uchod os gwelwch chi'n dda? Rwy'n
> cyfieithu poster ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia. Mae'r
> poster yn gofyn i bobl dyngu llw. Un o'r pethau sy'n cael ei ddweud ar y
> poster yw:
>
> I'm going to ask my friends to stop saying "that's so gay"!
>
> Oes gan unrhyw un syniadau ar ei gyfer os gwelwch chi'n dda? Os nad oes
> cyfieithiad addas, efallai gallen i newid y frawddeg i rywbeth arall tebyg?
>
> Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
>
> Cofion,
>
> Meinir

**********************************************************************

Privileged/Confidential Information may be contained in this message. If you are not the addressee indicated in this message (or responsible for delivery of the message to such person), you may not copy or deliver this message to anyone. In such case, you should destroy this message and kindly notify the sender by reply email. Please advise immediately if you or your employer does not consent to Internet email for messages of this kind. Opinions, conclusions and other information in this message that do not relate to the official business of the Council of the City and County of Cardiff shall be understood as neither given nor endorsed by it. All e-mail sent to or from this address will be processed by Cardiff County Councils Corporate E-mail system and may be subject to scrutiny by someone other than the addressee.

**********************************************************************

Mae'n bosibl bod gwybodaeth gyfrinachol yn y neges hon. Os na chyfeirir y neges atoch chi'n benodol (neu os nad ydych chi'n gyfrifol am drosglwyddo'r neges i'r person a enwir), yna ni chewch gopio na throsglwyddo'r neges. Mewn achos o'r fath, dylech ddinistrio'r neges a hysbysu'r anfonwr drwy e-bost ar unwaith. Rhowch wybod i'r anfonydd ar unwaith os nad ydych chi neu eich cyflogydd yn caniatau e-bost y Rhyngrwyd am negeseuon fel hon. Rhaid deall nad yw'r safbwyntiau, y casgliadau a'r wybodaeth arall yn y neges hon nad ydynt yn cyfeirio at fusnes swyddogol Cyngor Dinas a Sir Caerdydd yn cynrychioli barn y Cyngor Sir nad yn cael sel ei fendith. Caiff unrhyw negeseuon a anfonir at, neu o'r cyfeiriad e-bost hwn eu prosesu gan system E-bost Gorfforaethol Cyngor Sir Caerdydd a gallant gael eu harchwilio gan rywun heblaw'r person a enwir.

**********************************************************************


--
Scanned by iCritical.