Am wn i mai'r chwilod du yn y teulu Carabidae ('ground beetles') yw'r 'chwilod glaw'. Mae 'na amryw ohonyn nhw sy'n edrych yn reit debyg i'w gilydd. (Dramor mae rhai chwilod yn y teulu Scarabidae yn cael eu galw'n 'rain beetles'). Mae'r 'bloody nosed beetle' Timarcha tenebricosa yn perthyn i'r teulu chwilod dail (Chrysomelidae). Chlywais i 'rioed am enw Cymraeg ar T. tenebriosa. Dwi ddim yn siwr os yw 'poeri' yn hollol gywir (efallai y byddai 'chwilod trwynau gwaedlyd' yn fwy cywir) ond os oes enw arni yn y de mi fyddwn i'n tueddu defnyddio hwnnw. Dafydd On Wed, 25 May 2011 15:35:39 +0100, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: > > > > >Diolch, Iwan. Tybed a allech chi ymhelaethu tipyn? Ym mha ardal(oedd) a >ddefnyddir yr enw, a phaham? Ydy o'n enw ar y math arbennig hwn o chwilen, >yr un sy'n poeri hylif coch, yn unig? > > > >Llawer o ddiolch, > > > >Ann > > _____ > >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Edgar >Sent: 25 May 2011 09:05 >To: [log in to unmask] >Subject: Re: bloody-nosed beetle (Timarcha tenebricosa) > > > >Chwilen glaw > > > > _____ > >From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett >Sent: 24 May 2011 22:42 >To: [log in to unmask] >Subject: bloody-nosed beetle (Timarcha tenebricosa) > > > >Cafodd Bruce gais heddiw am derm ar gyfer yr uchod, ac awgrymodd, dros dro, >"chwilen poeri gwaed" ("poeri" yn hytrach na "boeri" gan mai "poeri gwaed" >yw'r ymadrodd cyfan). > > > >Peth da iddo son am y mater heno mewn cyfarfod a Duncan Brown a Twm Elias: >mae gan y chwilen enw yn y De. Mae'n debyg bod gan y plantos yno arfer >annwyl o afael yn y chwilen a gorfodi iddi boeri gwaed (hylif coch, i fod yn >fanwl gywir) dros eu ffrindiau. Ac i gyd-fynd a'r arfer mae/'roedd ganddynt >rigwm sy'n cyfeirio at y chwilen fel "y 'ffeirad du". Felly, ar hyn o bryd >awgrym Bruce, rhag ofn nad yw pobl yn gyfarwydd a'r hen enw mwyach, yw naill >ai: "chwilen poeri gwaed (offeiriad du)" neu "offeiriad du (chwilen poeri >gwaed)". Mae newydd fy nharo, gan fod "chwilen" yn fenywaidd ac "offeiriad" >yn wrywaidd, hynny, efallai, fydd yn llywio'r dewis! > > > >OND, mae hyn yn gadael dau gwestiwn diddorol: > >(i) a all rhywun adrodd y rhigwm inni? a > >(ii) a oes enw ar y chwilen yn y gogledd? > > > >'Rwy'n anfon copi o'r neges hon at Bethan Wyn Jones, ond croesewir unrhyw >wybodaeth y medr y grwp ei chynnig hefyd. > > > >Llawer o ddiolch, > > > >Ann > > > > _____ > >No virus found in this message. >Checked by AVG - www.avg.com >Version: 10.0.1375 / Virus Database: 1509/3659 - Release Date: 05/25/11 > >