Print

Print


Dwi'n meddwl mai "brocera a hwyluso partneriaethau" sydd yma, ie? yn hytrach na 'phartneriaethau brocera a hwyluso' ?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Sian Roberts
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, April 02, 2011 10:59 AM
Subject: Re: Brokering and Facilitating Partnerships

Mantais "broceru / brocera" yw eu bod yn debyg i'r Saesneg (sy ddim, bob amser, yn beth drwg!).

Os mai'r berfenw sy'n dy boeni, beth am "Partneriaethau Broceriaid a Hwyluswyr" ?

Mae "trefnu" / "creu" yn fwy amwys o lawer.

Pa faes sydd dan sylw? 
Wikipedia: "A broker is a party that mediates between a buyer and a seller."
dictionary.com: "a person who functions as an intermediary between two or more parties in negotiating agreements, bargains, or the like."

Fyddai "cyfryngu" yn cyfleu'r ystyr?

Cofion

Siân


On 2 Ebrill 2011, at 10:39, Rhian Huws wrote:

Helo bawb
Unrhyw syniadau ynghylch yr uchod? Dw i’n casau’r gair ‘broceru’ â châs perffaith! A fyddai ‘trefnu’ neu ‘creu’ yn addas yma?
Gan ddiolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth
Rhian