Strydoedd Pwllheli

Sand Street = Y Traeth
New Street = Pentre Poeth

Wil

On 04/04/2011 14:06, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">Ond, yn aml, er bod y cyfieithiad yn ymddangos yn "gwbl amlwg", nid yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn cyfateb i'w gilydd.  Ym Mhwllheli, mae 'na Lôn Dywod/New Street a Sand Street/Pentre Poeth

Felly, fydda i'n treio osgoi cyfieithu os nad oes enw Cymraeg swyddogol.  Ond, weithiau, fel yn yr achos hwn efallai, os yw'r enw'n gweithio fel disgrifiad hefyd - y ffordd sy'n arwain at Lecwydd (efallai)  - mae'n ymddangos yn rhyfedd cael yr enw Saesneg yng nghanol brawddeg

Siân   
On 4 Ebrill 2011, at 12:29, CATRIN ALUN wrote:

Dwi wedi trio hynny Ann - ond methu gweld arwydd!
Teimlo ydw i nad yw'r cyfeiriad fan hyn yn ddim mwy na lleoliad Cynhadledd (hy nid yn gyfeiriad gohebu) - ac mae cod post yno beth bynnag.
Dwi ddim wir yn gweld pam na ddylen ni gyfieithu enwau sy'n gwbl amlwg a hawdd fel hyn beth bynnag! Mae 10 mlynedd ers 2001 - angen i'r Cynulliad ddeddfu o blaid enwau Cymraeg yn unig!!!!
:o)

Catrin


From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 4 April, 2011 11:52:57
Subject: Re: Leckwith Road

Y cyngor sydd wedi ymddangos yma gwpl o weithiau o'r blaen ydy peidio a
chyfieithu enwau strydoedd Caerdydd os nad ydynt ar ryw restr gyfyngedig
(amgaeedig).  'Rwyf wedi cynnwys y rheswm yn rhan o'r rhestr, ond mae
honno'n mynd yn ol at 2001.  Os nad yw'r heol lletchwith 'ma'n un reit
newydd, byddwn i'n gadael yr enw fel y mae (er y gellid mynd yno ar Google
Street View a cheisio cael cip ar yr arwydd).

Ann
Original Message:
-----------------
From: Gwilym Lovgreen [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 11:13:10 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road


Lecwydd ydi Leckwith yn Gymraeg ond dwi erioed wedi sylwi ar enw Cymraeg ar
y ffordd.


From: CATRIN ALUN 
Sent: Monday, April 04, 2011 10:45 AM
To: [log in to unmask] 
Subject: Leckwith Road


Sut mae ffeindio enwau strydodd Cymraeg yng Nghaerdydd plis?!

Ai Heol Leckwith ydy hwn? 


--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE – Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE