Mantais "broceru / brocera" yw eu bod yn debyg i'r Saesneg (sy ddim, bob amser, yn beth drwg!).

Os mai'r berfenw sy'n dy boeni, beth am "Partneriaethau Broceriaid a Hwyluswyr" ?

Mae "trefnu" / "creu" yn fwy amwys o lawer.

Pa faes sydd dan sylw? 
Wikipedia: "A broker is a party that mediates between a buyer and a seller."
dictionary.com: "a person who functions as an intermediary between two or more parties in negotiating agreements, bargains, or the like."

Fyddai "cyfryngu" yn cyfleu'r ystyr?

Cofion

Siân


On 2 Ebrill 2011, at 10:39, Rhian Huws wrote:

Helo bawb
 
Unrhyw syniadau ynghylch yr uchod? Dw i’n casau’r gair ‘broceru’ â châs perffaith! A fyddai ‘trefnu’ neu ‘creu’ yn addas yma?
 
Gan ddiolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth
 
Rhian