Helo Huw,
Mae Archif Melville Richards o Enwau Lleoedd yn ddefnyddiol.
http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx
 
 
Dw i wedi atodi dogfen gyda’r elfen “ffernol”. Gair sydd yn ymddangos o Fon i Forgannwg mewn enwau lleoedd.
Yn yr enghreifftiau uchod mae’n digwydd gyda’r elfennau –      Cwm, Ystrad, Nant, Rhyd.
Efallai bod hyn yn awgrymu ei fod yn enw yn gysylltiedig a^ dw^r rhyw ffordd neu gilydd.
         enw nant, neu enw ardal lle mae ryw blanhigyn arbennig sy’n hoffi tir gwlyb yn tyfu.
Tybed ai ffurf dafodiaethol ar y gair “gwernol” sydd yma? Mae coed Gwern yn hoff o dir gwlyb.
Bydd mwy o wybodaeth leol yn helpu gyda’r ystyr.
 
Dewi
 
 
 
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Tegid
Sent: Monday, April 18, 2011 10:42 AM
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Subject: Re: Fernel/Vernel
 

Helo Paul,

 

Efallai y bydd y wefan hon o gymorth i chi:

 

http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/rhagymadrodd.html

 

yn enwedig, felly, yr adran hon:

 

http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/ymholiad.aspx

 

 

Cofion gorau,

 

Huw

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 18 Ebrill 2011 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Fernel/Vernel

 

Yr wythnos ddiwethaf anfonais yr ymholiad isod at y Cylch ond, yn anhapus, hyd yn hyn heb dderbyn yr un ymateb. Oes unrhyw syniadau/gwybodaeth gan rywun ynglyn â tharddiad Fernel? Hyd yn oed petai ond ychydig o’r egni a gafodd ei roi (neu ei wastraffu gan ddibynnu ar eich barn) i’r drafodaeth am Gee C(G)effyl bach, yn cael ei  roi i’r ymholiad hwn, byddwn i’n ddiolchgar.

 

Diolch

Paul

 

Neges wreiddiol: Tybed a all rhywun fy helpu gyda hyn? Dwi wedi cael cais i gadarnhau sillafiad ac esbonio ystyr yr enw uchod (fferm yn ardal Casllwchwr mae’n debyg). Mae enghreifftiau o Pen y Fernel (Pen y Vernel) hefyd. Does dim syniad ‘da fi beth yw tarddiad yr enw.

 

 

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************