Dafydd Tomos: > Os ydi pobl am ddefnyddio Ap yn lle App mae'n mynd i fod yn gythreulig > o anodd i ddod o hyd i wybodaeth amdanynt ar Google, gan fod 'ap' > yn air cyffredin mewn testunau Cymraeg ond fod 'AP' hefyd yn air mor > fyr sydd a ystyron eraill yn y byd technolegol. > > Mae 'Cymraeg' ei hun yn air sy'n ymddangos mewn llawer o dudalennau > gwe y dyddiau hun oherwydd Google Translate a chyfieithu awtomatig > o wefannau saesneg. Mae 'App' yn air unigryw gyda ystyr pendant ac > adnabyddus felly mae'n haws clymu chwiliadau iddo. Cytuno y gallai "ap" fod yn anodd ei ffeindio, ond oni fyddai chwilio am "apiau" yn datrys hynny? Rwy'n meddwl mai am y lluosog y byddwn i'n chwilio ar Gwgl beth bynnag - "apps", nid "app". Ac os nad yw "ap" yn ddigon da, beth yw'r dewis arall? Defnyddio "rhaglen"? Ond byddai hynny'n ei gwneud hi'n anodd i ddod o hyd iddynt ar Gwgl hefyd. Cadw'r Saesneg? Yr un broblem o fethu dod o hyd i wybodaeth amdanynt yn Gymraeg, na?